• Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu
Menu

Eglwys Minny St.

Street Address
City, State, Zip
Phone Number

Your Custom Text Here

Eglwys Minny St.

  • Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu

'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

February 27, 2020 Owain Evans

Edrychwn ymlaen at yr wythnos nesaf; wythnos lawn, ac amrywiol ei bendithion: Bydd Oedfaon y Sul dan arweiniad ein Gweinidog. Bore Sul (10:30) bydd Owain yn ymdrin â llawenydd a chadw’r ffydd. Ein braint fydd cael bod yn dystion i fedydd Cadi. Cynhelir Ysgol Sul.

Liw nos yn yr Oedfa Hwyrol (18:00) bydd Owain yn parhau â’r gyfres o bregethau’n seiliedig ar Lythyr Paul at Gristnogion Rhufain. Testun ein sylw fydd: Ar fy ngwir yng Nghrist, heb ddim anwiredd ... y mae fy ngofid yn fawr, ac y mae gennyf loes ddi-baid yn fy nghalon ... ond ni ellir dweud bod gair Duw wedi methu. (Rhufeiniaid 9:1,2,6). Ystyrir Balchder, Gofid a Meddyginiaeth Genedlaethol. Oedfa Gymundeb fydd hon. Cawn gyfle i gydymdeimlo â’r galarus yn ein plith, a chofio’r aelodau hynny sy’n methu a bod gyda ni, gan bellter ffordd, cystudd neu henaint.

Bydd ein Diaconiaid yn cwrdd nos Lun. Gofynnwn am arweiniad Duw wrth iddynt edrych a threfnu i’r dyfodol.

Cymdeithas Ddiwylliannol Eglwys Minny Street, (3/3; 19:30 yn y Festri): Noson o ddifyrwch ysgafn dros baned a phice bach yng nghwmni ein cyfeillion o Eglwys Bethel, Penarth yng nghofal Rhiannon Evans ac Elinor Patchell.

Nos Fercher (4/3; 19:00–20:30) Cwrdd Chwarter Cyfundeb Dwyrain Morgannwg (yng Nghapel Bethel, Penarth): Anerchiad gan Dr Hefin Jones, ‘Mae’r hinsawdd yn newid yr amgylchedd, ein cymdeithas a’n dyfodol’.

Dathlu Gwŷl Dewi (5/3; 18:30–21:30) yng nghartref aelod er budd ein helusen, Maggie’s (manylion yng nghyhoeddiadau’r Sul)

(5/3; 19:00) Gwasanaeth i ddathlu pedwar canmlwyddiant Beibl 1620 yng Nghapel y Tabernacl, Yr Ais (pregethir gan Mr Arfon Jones).

Babimini bore Gwener (6/3; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin. Gorffwysed bendith ar Fabimini. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon.

Cwrdd Gweddi’r Byd (6/3; 14:00) yn Eglwys Sant Teilo (Old Church Road, yr Eglwys Newydd).

← 'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD'BETHANIA': JOSUA (11) →

Eglwys Annibynnol Minny St.
Y Waun Ddyfal, Caerdydd
CF24 4ER

Lawrlwytho
Dogfennau

©minny St 2021