Cymorth Cristnogol
"One of the great liabilities of history is that all too many people fail to remain awake through great periods of social change! Today our very survival depends on our ability to stay awake, to remain vigilant and to face the challenge of change. Together we must learn to live as brothers or together we will be forced to perish as fools." (o Where do we go from here: Chaos or Community gan Martin Luther King (1929-1968). Cyh.: Beacon Press, Boston; 1967). Erys ein difaterwch! Ym mhob oes, mae cymaint ohonom yn ddifater o’r gofyn sydd arnom i newid natur ein hymwneud â’n brodyr a chwiorydd; ac i newid natur ein hymwneud â Duw. Aeth ein hymwneud ag eraill, ac â Duw yn ‘fyfiol’ iawn. Pa rhyfedd felly bod ein byw yn ddim ond bod, a’n ffydd yn ddim ond crefydda.
... nid oedd Galio yn poeni dim am hynny (Actau 18:17). ‘Roedd y rhaglaw Galio yn ystyried cwerylon Iddewon ynghylch gwirioneddau crefyddol islaw ei sylw. Onid yw yn ddarlun ohonom? onid ‘rydym ninnau yn barchus ddi-hid o Iesu, ac nid ydym yn mynnu cymryd ei neges na’i Eglwys o ddifrif? Gwaelod neges Iesu, a gwraidd bodolaeth ei Eglwys, yw’r argyhoeddiad nad oes yr un llwybr at Dduw nad yw’n mynd heibio i gyd-ddyn. Geilw Wythnos Cymorth Cristnogol arnom i ddewis bod yn llai tebyg i Galio trwy ddewis bod yn fwy tebyg i Iesu, gan fynd oddi amgylch gan wneud daioni (Actau 10:38), lleddfu gofidiau, esmwytháu beichiau a chodi’r gwan. Corff Crist yw’r Eglwys. Nid dweud y drefn wrth y byd yw priod waith yr Eglwys; nid concro’r byd na’i gyfundrefnu, ond cynnig cymorth iddo: Cymorth Cristnogol
Sulgwyn
Hyn sydd yn esbonio trywydd yr homili hon, a phregeth heno. Oddi fewn i glawr pob Caneuon Ffydd yn y Crwys mae copi o Y Gyffes Fer o’n Ffydd. Pam nad Credo’r Apostolion neu Credo Nicea? Wrth dwrio a chwilio am yr ateb, mi ddois ar draws Y Datganiad Byr ar Ffydd a Buchedd. Er nad byr Y Datganiad Byr ar Ffydd a Buchedd mae’r datganiad yn werth darllen dim ond am y cymal hwn: Bendithiwn Dduw am Efengyl ei Fab, a ... sylwch ... mawr amryw ddoniau yr Ysbryd Glân.
Y ddawn i’n hargyhoeddi. Ond nyni, nid ysbryd y byd a dderbyniasom, ond yr Ysbryd sydd oddi wrth Dduw (1 Corinthiaid 2:12). Fel Pobl Dduw gwyddom mai pobl ar goll ydym; bu i’r Ysbryd Glân ein hargyhoeddi o hynny. Daw’r Ysbryd hefyd i’n hargyhoeddi mai Iesu yw’r ffordd o dristwch i lawenydd, ac o dywyllwch i oleuni. Nid bodloni ar ddangos y ffordd a wnaeth Iesu, ond bod yn ffordd.
Dawn arall yr Ysbryd yw arwain. ... fe roddaf fi i chwi huodledd, a doethineb na all eich gwrthwynebwyr ei wrthsefyll na’i wrth-ddweud (Luc 21:15). Rhydd yr Ysbryd Glân arweiniad digonol i bawb mewn argyfwng, nid yn unig am ei fod yn adnabod y sefyllfa yn drwyadl, ond am fod y cyfan o dan ei awdurdod.
Crea’r Ysbryd dystion ohonom. Yr Ysbryd Glân a greodd o nythaid o ddisgyblion ofnus, cwmni o dystion mentrus, dewr ac eofn. Gallasai’r dynion hyn, heb yr Ysbryd, fod wedi hel cwmni o bobl at ei gilydd i greu cymdeithas; nid Cymdeithas Cofio Iesu a grëwyd, ond Eglwys fyd-eang sydd, pan fydd iddi ildio i arweiniad yr Ysbryd Glân, yn rym er lles a bendith pob lliw, llun a llewyrch o bobl.
Yn olaf, dawn yr Ysbryd Glân i greu undod. Ar ddydd cyflawni cyfnod y Pentecost yr oeddent oll ynghyd yn yr un lle ... (Actau 2:1). Yn a thrwy’r Ysbryd Glân cawn ein tywys i undod â Duw yng Nghrist, a thrwy Crist â’n gilydd. Dim ond hyn sydd bwysig: Byddwch yn gytûn ymhlith eich gilydd (Rhufeiniad 12: 16a).
Un yw Cymru, ‘nghwlwm gweddi, un, er gwahaniaethau oes:
Gyda’r nef a chyda’i hunan fe’i cymodwyd wrth y Groes.
Eifion Wyn (1867-1926)