"Credwn mai diben pennaf dyn ..."
Oddi mewn i glawr pob Caneuon Ffydd yng nghapel Eglwys y Crwys mae copi o Y Gyffes Fer o’n Ffydd. Gorffen y gyffes gyda’r geiriau: Credwn mai diben pennaf dyn ydyw gogoneddu Duw a’i fwynhau byth ac yn dragywydd. Tebyg mai John Calfin (1509-1564) yw awdur y darn hwn o’r gyffes; ceir adlais yng ngeiriau’r emyn:
Fy ngorchwyl yn y byd yw gogoneddu Duw
a gwylio dros fy enaid drud yn ddiwyd tra bwyf byw.
(Charles Wesley, 1707-88; cyf. W.O.Evans, 1864-1936; CFf: 673)
Sut gellir gogoneddu Duw, a thrwy hynny gyflawni diben pennaf ein bodolaeth? Gogoneddu Duw oedd bara beunyddiol Iesu: Fy mwyd i yw gwneud ewyllys yr hwn a’m hanfonodd (Ioan 4:34). I ogoneddu Duw, rhaid treiddio i berson Iesu. Un o nodweddion mawr ein crefydd yw bod person byw'r Arglwydd Iesu yn ei chanol. Ffynhonnell ein crefydd yw person byw Crist Iesu. Cymdeithas â pherson byw yw ei hanfod. Nid y groes yw hanfod ein crefydd, ond yr Hwn a fu ar y groes. Nid ffaith yr atgyfodiad yw bywyd ein crefydd a gwefr ein crefydda, ond bywyd y bywyd a atgyfododd. Rhaid wrth adnabyddiaeth o Grist byw; rhaid treiddio i berson Iesu.
Mae modd gogoneddu Duw mewn cymeriad. Daeth Iesu Grist i’r byd i sefydlu Teyrnas Dduw: ceisiwch yn gyntaf deyrnas Dduw (Mathew 6:33a). Nodwedd bwysicaf ein cred a’n credu yw byw dan lywodraeth Duw, a hwnnw yn Dduw cariad. Gwyddai Iesu hynny, ac mae’r pwyslais hwnnw yn gyson amlwg: Os bydd gennych gariad tuag at eich gilydd, wrth hynny bydd pawb yn gwybod mai disgyblion i mi ydych (Ioan 13:35). Yr wyf yn rhoi i chwi orchymyn newydd: carwch eich gilydd. Fel y cerais i chwi, felly yr ydych chwithau i garu’ch gilydd (Ioan 13:34). Dyma'r un rheol a roes Iesu inni: Carwch eich gilydd. Dyma beth yw gogoneddu Duw! Y gwirionedd mwyaf yn ein byd heddiw, ac a ddatguddiwyd ym mherson Iesu, yw mai cariad yw Duw. Celwydd yw popeth a leferir ac a bregethir sy’n groes i hyn. Fel aelod a chyfaill o Eglwys Iesu Grist yr unig reidrwydd mawr sydd arnom yw caru! Dyma’r orfodaeth fawr sydd arnom oll: Carwch eich gilydd. Dyma ddiben pennaf ein byw. Yn hyn gogoneddir ein Duw.
Mae modd gogoneddu Duw mewn gwaith. Byd ymarferol i’r eithaf yw ein byd ni; nid digon Efengyl sy'n air ar ein gwefus ac yn gân yn y galon, rhaid clywed Iesu yn dweud eto: Y mae fy Nhad yn dal i weithio hyd y foment hon, ac yr wyf finnau'n gweithio hefyd (Ioan 5:17). Cofiwn eiriau Paul mai cydweithwyr Duw ydym (Rhufeiniaid 16:3 a 1 Thesaloniaid 3:2). Onid y rheswm mae crefydd cymaint ohonom mor dila ac mor analluog i roi gwir foddhad inni, yw mai crefydd ddi-waith ydyw. Mae angen therapi galwedigaethol arnom! Nid rhyfedd i Iesu roi’r ddeubeth hyn yn nesaf at ei gilydd yn y Weddi Fawr: Deled dy Deyrnas a Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol (Mathew 6:9-13); gwaith yw’r bont rhwng y naill gymal a’r llall. Dim ond yr Efengyl a rydd waith i'n dwylo a all iachau ein heneidiau. Boed i Iesu ddweud amdanom: y mae gan fy mhobl galon i weithio (Nehemeia 4:6). Gweithio a chyd-weithio - yn hyn y gogoneddir Duw.
Fe’m galwyd gan fy Nuw i wasanaethu f’oes;
boed im ymroi i’r gwaith, a byw i’r Gŵr fu ar y Groes. (ibid)
Mae modd gogoneddu Duw mewn cymdeithas. Crefydd gymdeithasol yw Cristnogaeth. Duw yn Dad, ninnau’n blant iddo, ac yn frodyr a chwiorydd i’n gilydd. Cymdeithas o gredinwyr yw pob eglwys. Nid Duw pell sydd gennym ond Duw sydd o’i gariad mawr wedi dod i’n plith; Duw gyda ni yw gwefr ein credu. Gogoneddwn ein Duw i’r graddau y sylweddolwn fod yn rhaid rhannu Cariad Duw, a hynny er gwaethaf y rhwystrau sydd yn y ffordd. Rhannu’r Cariad hyd nes y daw’r Cariad hwnnw yn eiddo i bawb ym mhob man. Yn hyn y gogoneddir Duw!
Credaf mai diben pennaf dyn yw gogoneddu Duw mewn cymeriad, mewn gwaith ac mewn Cymdeithas.