NEWYDDION Y SUL

Clytwaith o fyfyrdodau: dyna oedd ein Hoedfa Foreol. Arweiniwyd y cyntaf gan Elen Haf. Cawson ganddi sylwadau bachog am arwyddocâd y Pentecost a gwaith yr Ysbryd Glân. Wrth i Elen ddisgyn o’r pulpud a dychwelyd at ei theulu, daeth Lili am i fyny i rannu Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd. Testun y neges fawr honno eleni yw 'Dewis a Chydwybod'. Lluniwyd y neges gan ddisgyblion Ysgol Uwchradd Maes Garmon, Yr Wyddgrug. Diolch iddynt am eu gwaith, ac am neges gwir arwyddocaol.

Wedi derbyn adnodau’r plant a phlantos bu’r Gweinidog yn trafod yr Ysbryd Glân, ac am hwyl a syndod! Cyfaddefodd Owain nad oedd yn deall sut oedd cael swigod allan o’r botel hylif swigod. ‘Roedd wedi ceisio sawl ffordd wahanol - ysgwyd ac arllwys - ond ofer y cyfan. Dim swigod. Yn amyneddgar a phwyllog iawn, (Truan a’r Gweinidog, ag yntau heb wybod rhyw bethau elfennol fel hyn!) esboniwyd iddo gan y plant, mai gwaith digon hawdd oedd cael swigod o’r botel. Rhaid gosod y ffon fechan yn yr hylif - gwnaeth Owain yn ôl y cyfarwyddyd - wedi, codi’r ffon o’r hylif, chwythu trwy’r twll - Owain yn gwneud - Ah! Swigod. Cafodd y plant gyfle, bob un, i chwythu swigod, a phawb yn mwynhau. Y neges? Cariad Duw yw’r hylif; yr Eglwys fawr fyd-eang, ac yn fychan lleol yw’r ffon fechan. Gwaith yr Eglwys yw chwythu swigod o gariad i bob cwr a chornel o fyd Duw, ond i wneud hynny, rhaid wrth 'anadl' yr Ysbryd Glân. Dim ond pan mae’r Ysbryd yn ‘chwythu’ trwom y crëir swigod o wasanaeth a bendith.

Ond, ‘roedd rhagor … anfonwyd y plant a phlantos yn ôl i eistedd. Daeth y Gweinidog a silindr llwyd a’i osod yn ofalus ar fwrdd wrth ochr y piano. Mynnai fod y silindr hwn yn dangos peth arall mae’r Ysbryd yn gallu gwneud. Golwg digon diflas oedd i’r silindr hwn: llwyd, a thua throedfedd o daldra. Sylweddolai Owain erbyn nad oedd neb wir - o’r ieuengaf i’r hynaf - wedi eu hargyhoeddi fod y silindr hwn yn ddiddorol, heb sôn am fod yn gyffrous. Felly, cyneuwyd y ffiws, ac er MAWR syndod, bu ffrwydrad! Papur a pheli lliwgar yn drybowndian o gwmpas y lle. (Truan, heddiw eto a’r Gofalwr)! Dyma beth mae’r Ysbryd Glân yn gallu gwneud: creu syndod, meithrin ymateb! Pan mae’r Ysbryd yn cael ei le, ceir ‘ffrwydrad’ o fendith a gwasanaeth.

Aeth y plant a phlantos i’r Festri at ei gwersi, a hwythau’n mynd i’r afael a’r Pentecost, heb anghofio Cymorth Cristnogol.

At y clytwaith o fyfyrdodau, ychwanegwyd neges am bwysigrwydd Cymorth Cristnogol. Cododd Owain destun o Lyfr yr Actau: ... nid oedd Galio yn poeni dim am hynny. (Actau 18:17). Geilw Wythnos Cymorth Cristnogol arnom i ddewis bod yn llai tebyg i Galio - poeni dim am hynny - wrth ddewis bod yn fwy tebyg i Iesu, gan fyned oddi amgylch gan wneuthur daioni (Actau 10:38). Gweithiwn a chydweithiwn i leddfu gofidiau, esmwytháu beichiau a chodi’r gwan i fyny. Corff Crist yw’r Eglwys, felly gwyddom nad dweud y drefn wrth y byd yw ei phriod waith; nid concro’r byd, na’i gyfundrefnu, ond cynnig cymorth iddo: Cymorth Cristnogol.

Echel y myfyrdod nesaf oedd cymal o Y Datganiad Byr ar Ffydd a Buchedd: Bendithiwn Dduw am Efengyl ei Fab, a mawr amryw ddoniau yr Ysbryd Glân. Cawsom ein hatgoffa o ddawn yr Ysbryd i’n hargyhoeddi; i arwain; i greu tystion ohonom, ac i greu a chynnal undod. (Ceir cofnod manylach o homiliau'r bore a phregeth nos Sul eisoes ar y wefan hon).

A ninnau bellach wrth y Bwrdd, cafwyd yr olaf o fyfyrdodau’r bore. Hanfod y myfyrdod oedd un gwahaniaeth rhwng y cyfieithiad Cymraeg a geiriau gwreiddiol Daniel Iverson:

Ysbryd y tragwyddol Dduw, disgyn arnom ni;

Ysbryd y tragwyddol Dduw, disgyn arnom ni:

Plyg ni, trin ni, golch ni, cod ni:

Ysbryd y tragwyddol Dduw, disgyn arnom ni.

(Daniel Iverson, 1890-1977 cyf. IDDO EF C.Ff:601)

Dyma’r geiriau gwreiddiol Saesneg:

Spirit of the living God, fall a fresh on me;

Spirit of the living God, fall a fresh on me;

Break me, melt me, mould me, fill me;

Spirit of the living God, fall a fresh on me.

Wrth Gymuno buom yn dawel ystyried y gwahaniaeth rhwng Plyg ni a Break me.

Wedi hwyl a chwerthin ein ‘Dewch a Phrynwch’ bore ddoe, ‘roedd cyfle eto heddiw i ‘Ddod a Phrynu’. Eto, bu chwerthin, hwyl a chwmnïa braf. Canlyniad y cyfan oedd bod dros £1000 wedi ei godi i Gymorth Cristnogol.

Liw nos, cymal olaf Y Gyffes Fer o’n Ffydd oedd testun ein sylw:

Credwn mai diben pennaf dyn

ydyw gogoneddu Duw

a’i fwynhau byth ac yn dragywydd.

(Onid, aeth ein Gweinidog yn Bresbyteraidd iawn heddiw?). John Calfin (1509-1564) yw awdur y darn hwn o’r gyffes mae’n debyg, a cheir adlais o’r syniad yn emyn Charles Wesley:

Fy ngorchwyl yn y byd

yw gogoneddu Duw

a gwylio dros fy enaid drud

yn ddiwyd tra bwyf byw.

(cyf. W.O.Evans, 1864-1936; C.Ff:673)

Sut allwn ni ogoneddu Duw, a thrwy hynny gyflawni diben pennaf ein bodolaeth?

Awgrymodd Owain, fod Iesu yn dangos gwir ystyr gogoneddu Duw. Ym mherson Iesu mae cyfrinach gogoneddu Duw. Dyma un o nodweddion mawr ein crefydd ninnau. Mae person byw'r Arglwydd Iesu yn ei chanol. Cymdeithas â pherson byw yw ei hanfod. Yn Iesu, gan Iesu welwn fod modd gogoneddu Duw mewn cymeriad. Fel Cristion - un o bobl Iesu - yr unig reidrwydd mawr sydd arnom yw caru! Dyma’r orfodaeth fawr sydd arnom oll: Carwch eich gilydd. Dyma ddiben pennaf ein byw. Yn hyn gogoneddir ein Duw.

Gellid gogoneddu Duw mewn gwaith. Byd ymarferol i’r eithaf yw ein byd ni - brawychus o ymarferol, ac i ddelio ag ef nid rhaid wrth grefydd yn ei dillad gwaith. Er mwyn sicrhau ein hiechyd ysbrydol rhaid wrth occupational therapy.

Yn Iesu, a chan Iesu welwn fod modd gogoneddu Duw mewn cymdeithas. Gogoneddwn ein Duw, dim ond i’r graddau y sylweddolwn fod yn rhaid rhannu peth mor fendigedig â Chariad Duw. Rhaid rhannu’r Cariad hwn faint bynnag o rwystrau sydd yn y ffordd. Rhannu Cariad; gogoneddir Duw pan rannwn ei gariad a’n gilydd ac eraill.

Nid Sul, ond tymor yw'r Pasg. Buom, fel eglwys eleni yn cadw Tymor y Pasg, a hynny trwy gyfrwng myfyrdod byr beunyddiol ar y wefan, pwt o neges drydar, a phump o gyfarfodydd liw nos. Buddiol a da bu'r gyfres hon. Diolch amdani.

Ar wefan Undeb yr Annibynwyr gwelir Myfyrdod ar gyfer y Pentecost gan y Parchedig Robin Samuel, Swyddog Cynnal ac Adnoddai De Cymru. Diolch iddo amdano.

http://annibynwyr.org/myfyrdod-ar-gyfer-y-pentecost/

O! Ysbryd byw, dylifa drwom,

bywha dy waith â grym y groes;

O Ysbryd byw, tyrd, gweithia ynom,

cymhwysa ni i her ein hoes.

(Elizabeth Porter Head, 1850-1936 cyf. E.H.Griffiths C.Ff:597)

Bu i’r gymdeithas barhau yn Koinônia: swper blasus a sgwrs ddifyr mewn bwyty Eidalaidd cyfagos.

Diolch am amrywiol fendithion y dydd.

Edrychwn ymlaen at y Sul nesaf. Y Parchedig Gwilym Wyn Roberts fydd yn cynnal yr Oedfa Foreol. Bydd yr Oedfa Hwyrol o dan ofal y Parchedig Dyrinos Thomas. Cofiwch am y Velathon sydd yn cael ei chynnal gydol y Sul ac o ganlyniad bydd rhai heolydd ar gau. Argymhellwn eich bod yn rhoi ychydig mwy o amser ar gyfer eich taith er mwyn cyrraedd yr oedfaon mewn da bryd ... ac os byddwch yn cyrraedd yn gynnar bydd yna baned yn eich disgwyl. Cysylltwch â’r Gweinidog am ragor o fanylion ynglŷn â pha heolydd sydd ar gau.

Gweddïwn am wenau Duw ar y Sul.