Er bod tymor yr arholiadau wedi dechrau a nifer o ffyddloniaid PIMS ‘yn ei chanol hi’, daeth grŵp teilwng o'r aelodau iau ynghyd heno i ystyried arwyddocâd Wythnos Cymorth Cristnogol. Y man cychwyn, yn naturiol ddigon oedd … annhegwch. Pentwr o nwyddau: losin, bara, ‘Cream Cracker’, ffrwythau a llysiau, dŵr glân, dŵr budr, allwedd drws, ymbarél a moddion! Rhannu wedyn i ddau grŵp, bechgyn a merched, a dechrau dosrannu’r nwyddau. Am achwyn! Rhannu’r losin yn anghyfartal, 3 i’r bechgyn, 12 i’r merched; bara ffres i’r merched, ‘Cream Cracker’ sych i’r bechgyn; ffrwyth a llysiau i’r merched ... dim i’r bechgyn ac yn y blaen. Hyn yn arwain at drafodaeth ystyrlon iawn ar degwch ac annhegwch. 'Roedd gan y bechgyn farn bendant iawn am annhegwch y sefyllfa!
Dyma fynd ati wedyn i chwilio am Lyfr y Diarhebion yn gyntaf, ac am yr adnod hon yn benodol: Y mae’r un sy’n gorthrymu’r tlawd yn amharchu ei greawdwr, ond y sawl sy’n trugarhau wrth yr anghenus yn ei anrhydeddu. (Diarhebion 14: 31). ‘Roedd hon yn adnod weddol hawdd i’w deall yng nghyd-destun Wythnos Cymorth Cristnogol ond nid felly'r llu adnodau o Lyfr Deuteronomium: Os byddi’n rhoi benthyg unrhyw beth i’th gymydog, paid â mynd i mewn i’w dŷ i gymryd ei wystl. Saf y tu allan, a gad i’r dyn yr wyt yn rhoi benthyg iddo ddod â’i wystl allan atat. (Deuteronomium 24:10) - pan fyddi’n rhoi benthyg unrhyw beth i wlad dlawd, paid ag anfon i mewn tîm o arbenigwyr i ad-drefnu’r economi. Fe ddaw’r bobl sy’n byw yno ag awgrymiadau am newid atat ti; Nid yw neb i gymryd melin na maen uchaf melin yn wystl, oherwydd byddai’n cymryd bywoliaeth dyn yn wystl. (Deuteronomium 24:4) - nid yw neb i gymryd y tir lle tyf gwenith i wneud bara i’r tlawd a phlannu yno goffi neu siwgr i’w hallforio - mae hyn yn gyfystyr â chymryd bywydau pobl yn wystl; Pan fyddi wedi medi dy gynhaeaf ond wedi anghofio ysgub yn y maes, paid â throi’n ôl i’w chyrchu; gad hi yno ar gyfer y dieithryn, yr amddifad a’r weddw (Deuteronomium 24:19) - pan fyddi’n ceisio mantoli dy economi ac wedi gadael cymorthdaliadau ar fwydydd hanfodol, paid â mynd yn ôl i’w dileu. Gad hwy i fod ar gyfer y rhai na fyw hebddynt; Paid â gorthrymu gwas cyflog anghenus a thlawd ... rho ei gyflog iddo bob dydd cyn i’r haul fachlud ... oherwydd y mae’n anghenus ac yn dibynnu arno. (Deuteronomium 24:14) - paid â gwrthod tâl cyfiawn i’r rhai sy’n byw yn unig wrth eu llafur. Maent yn dibynnu arno ac mae ei angen arnynt heddiw; Y mae dy bwysau a’th fesurau i fod yn gyfiawn ac yn safonol. (Deuteronomium 23:15) - yn dy bolisi economaidd, nid wyt i feddu ar ddwy safon wahanol, un i’r cyfoethog ac un i’r tlawd. Nid wyt i orfodi’r tlawd i ddadbrisio’u harian, eu llafur a’u bywydau tra dy fod yn diogelu'r eiddot dy hun. Trwy’r trafodaethau a’r dehongli ymestynnol hyn, y PIMSwyr yn sylweddoli bod, yn yr hen lyfr hwn, ganllawiau i sicrhau economi deg - mawr fu’r sgwrsio am hyn.
Rhannu eto’n ddau grŵp, un yn darllen a thrafod Plentyn Bob Eiliad (gan Tudur Dylan Jones; ‘Berw’r Pair’ Canolfan Astudiaethau Iaith, Llangefni, 1995) a’r llall, Gweddi Teresa o Avila (1515-1582; allan o Gweddïau Enwog. Gol. Cynthia Davies. Cyhoeddiadau’r Gair 1993).
Plentyn Bob Eiliad
Mae ‘na blentyn yn marw bob eiliad,
Mae ‘na fam gyda dagrau’n ei llygad -
Y dagrau sy’n llosgi gan gariad.
A bron cyn i’r truan gael cyfle
I ddysgu am hwyl ac am chware,
Mae ‘na feddrod yn agor yn rhywle.
A phan fydd y gerdd wedi Gorffen
Bydd mwy wedi marw trwy angen:
Sawl eiliad gymerwyd i’w ddarllen?
Dyma ymateb Connor, Freddie a Harri i’r gerdd: Ni’n drist oherwydd bod y gerdd yn wir - mae hyn yn digwydd nawr. Trist, a chrac - dylai hyn ddim bod yn digwydd. Siomedig: yn yr amser i ni’n cymryd i feddwl am sefyllfa'r plant hyn, mae plant yn dal i farw. Rhaid meddwl am wneud rhywbeth, ac mae cefnogi Cymorth Cristnogol yn gyfle i ni wneud rhywbeth.
Yna’r weddi gan Teresa o Avila:
Bellach nid oes gan Grist gorff ar y ddaear ond eich corff chi;
gyda’ch dwylo chi yn unig y gall wneud ei waith ...
â’ch traed chi yn unig y gall droedio’r byd ...
trwy eich llygaid chi yn unig y gall ei dosturi lewyrchu ar fyd cythryblus.
Bellach nid oes gan Grist gorff ar y ddaear ond eich corff chi.
Fel hyn yr ymatebodd Efa, Amy, Cadi, Mali a Shani i’r weddi hon: Nid disgwyl i Iesu a Duw i wneud trosom yw credu, ond gwneud pob peth i ni'n gallu i helpu eraill, ni sy'n helpu Duw i helpu ei bobl. Mae rhai pobl yn dewis peidio gweld yr angen am gymorth Cristnogol. Gwna hynny ddim mor tro.