Pan aeth hi’n hwyr, aeth ei ddisgyblion i lawr at y môr, ac i mewn i gwch, a dechrau croesi’r môr i Gapernaum. Yr oedd hi eisoes yn dywyll ...Yna, wedi iddynt rwyfo am ryw dair neu bedair milltir, dyma hwy’n gweld hwy’n gweld Iesu ... (Ioan 6: 16,17 a 19)
Llesol yw ymollwng i dawelwch myfyrdod a gweddi - ymlonyddu yn Nuw gyda phobl Dduw. Dyna ddiben ‘Capernaum’.
 ninnau ar ddechrau Wythnos Cymorth Cristnogol hanes Porthi’r Pum Mil (Luc 9:10-17) fu testun ein sylw heno.
Ein man cychwyn oedd y disgyblion. Mae’r disgyblion yn poeni; ‘roedd y dydd yn prysur ddirwyn i ben; Iesu’n prysur flino; a hwythau’n prysur geisio iddo - a hwythau’r un modd - ychydig o lonydd ar derfyn dydd - mymryn o orffwys. Ond, Iesu ... Iesu’n gwrthod cefnu ar y bobl. Rhaid oedd gofalu amdanynt; rhaid eu bwydo, a rhaid i’r disgyblion ysgwyddo’r cyfrifoldeb hwnnw. Rhowch chi rywbeth i’w fwyta iddynt (Luc 9:13a). Cwrtais negyddol yw’r ymateb i’r cais hwnnw: Nid does gennym ddim ond pum torth a dau bysgodyn, heb inni fynd a phrynu bwyd i’r holl bobl hyn (Luc 9:13b). Yr argraff a geir yw bod y disgyblion yn anfodlon iawn (m)ynd a phrynu bwyd i’r holl bobl hyn. Pam llwytho’r disgyblion â baich y fath gyfrifoldeb? Onid cyfrifoldeb y dyrfa oedd sicrhau fod ganddynt ddigon o fwyd?
Yna, y dyrfa. Ni fuasent wedi mentro allan ar daith diwrnod heb fod ganddynt fwyd ar gyfer y diwrnod. Y rhwystr oedd anfodlonrwydd i rannu. Mae Ioan yn sôn am fachgen a fu’n esiampl i’r gweddill (Ioan 6:9). Dangosodd y bachgen hwn ei fod yn barod i rannu’r hyn oedd ganddo - pum torth a dau bysgodyn. Dau bysgodyn a phum torth i gwrdd â gofyn 5000 o bobl! Bu’n ddigon, fwy na digon. A hynny’n wyrth! Ai Iesu a lwyddodd trwy ryw ryfedd ryfeddod i droi’r ychydig yn ddigon i bawb, neu a lwyddodd Iesu i dorri plisgyn caled anfodlonrwydd pobl i rannu'r ychydig oedd ganddynt. Wrth i bawb rannu ei ychydig, sicrhawyd i bawb mwy na digon: Gwyrth! Pa wyrth tybed yw’r mwyaf gwyrthiol?
Iesu. Gwelodd Iesu ymateb y disgyblion a chredaf iddo gael ei siomi ganddynt. Beth am y dyrfa? Siom eto fan hyn. ‘Roedd bwyd ar gael - nid oedd prinder bwyd ymhlith y bobl - yr hyn oedd yn brin oedd parodrwydd i rannu. Erys yr amharodrwydd. Y wyrth fan hon, am wn i, yw bod Iesu wedi ysgogi newid calon ymhlith y bobl hyn, gan ennyn ynddynt barodrwydd i fentro rhannu. A menter ydyw, gan fod perygl eich bod, wrth rannu’r yr ychydig sydd gennych, yn mynd i golli’r ychydig sydd gennych. Myn Iesu, po fwyaf a rannwn, mwyaf i gyd fydd gennym.
Diben Cymorth Cristnogol yw ysgogi newid calon: newid calon cymdeithas, llywodraeth, economi a diwylliant. Man cychwyn y newid calon hwnnw, yw newid calon pobl fel ti a fi. Boed i’r Crist byw cyflawni ei wyrth yn ein calon, a ninnau felly yn byw yn ôl ei ofynion - gan geisio hawliau eraill, yn ogystal â’n hawliau’n hunain; ymgyrchu dros y gwan a’r tlawd: rhannu’n bwyd â’r newynog, ei heiddo â’r tlawd, ein hamser a’n sylw â’r unig a gwrthodedig.
'Capernaum': buddiol y cwrdd hwn. Ynddo, a thrwyddo, ar derfyn dydd, cawn ryw wastadrwydd meddwl ac enaid.