A chredwn, yn y Pentecost tragwyddol, y bydd Bernard yno yn canu ei "Jesu, dulcis memoria", a Luther ei "Ein feste Burg ist unser Gott", a Watts ei "When I survey the wondrous Cross" a Phantycelyn ei "Iesu, Iesu, ‘rwyt Ti’n ddigon" heb i Bernard anghofio ei Ladin, na Luther ei Almaeneg, na Watts ei Saesneg, na Phantycelyn ei Gymraeg, a heb i hynny rwystro mewn unrhyw fodd gynghanedd berffaith eu cyd-ddeall a’u cydganu.
J. E. Daniel (1902-1962) yn ei bregeth ‘Gwaed y Teulu’.