Gwneuthur daioni, a chyfrannu, nac anghofiwch canys â chyfryw ebyrth y rhyngir bodd Duw. (Hebreaid 13:16 WM)
Gwneuthur daioni ...
Os daw rhywun ar ein gofyn heddiw am gymorth, peidiwn â dweud: "Duw a’th gynorthwyo". Yn hytrach, yn enw Duw, cynorthwywn yn union fel pe na bai Duw yn bod.
... a chyfrannu ... a rhannu ag eraill (BCN) ... a rhannu’ch cyfoeth (beibl.net) ...
Wrth wasanaethu arall - rhannu’r hyn ydym a’r hyn sydd gennym - y deuwn o hyd i’n hunain gorau.
Dameg o’n ffydd yw dogma; alegori o’n ffydd yw credo, ond mae pob gweithred yn ddiffiniad o’n ffydd. Cofiwn, felly wneuthur daioni, a chyfrannu ... canys â chyfryw ebyrth y rhyngir bodd Duw.
(OLlE)