Barnwch yn deg, a dangoswch drugaredd a thosturi tuag at eich gilydd ...
(Sechareia 7:9 BCN)
Barnwch yn deg ...
Os dywedwn fod cyfiawnder yn anhepgor i Gristnogaeth, anghyfiawnder felly, yw’r pennaf apostasi. Os cariad yw Duw, yr heresi eithaf yw creulondeb.
... dangoswch drugaredd a thosturi tuag at eich gilydd ...
Mae sôn am garu Duw yn beth niwlog iawn, ac yn wir, ychydig iawn o sôn a geir yn y Beibl am garu Duw, ond mae ynddo drwch o sôn am garu ein gilydd. Rhaid gwahaniaethu rhwng ‘bod dynol’ a ‘bod yn ddynol’. Gorchest bob ‘bod dynol’ yw ‘bod yn ddynol’: dangos trugaredd a thosturi tuag at ein gilydd.
(OLlE)