Ildiwch eich hunain i Dduw ...
Nid syniad i’w gofleidio yw Cariad Duw, ond gallu y mae’n rhaid ildio iddo. Ildio i gariad Duw yw grym crefydd.
Heb wneud beth sy’n iawn, caru ffyddlondeb, a rhodio’n ostyngedig gyda Duw (Micha 6:8) byddwn yn cadw ffurf allanol crefydd ond yn gwadu ei grym hi (2 Timotheus 3:5 BCN).
Y gwahaniaeth rhwng Micha 6:8 a 2 Timotheus 3:5? Cymaint o wahaniaeth ag sydd rhwng caib a cheibio, bocs paent a phaentio; rhwng gardd a garddio!
(OLlE)