Yn wir rwy'n gwneud ffordd yn yr anialwch ...
(Eseia 43: 19b BCN)
Mae pobl Eseia ar goll - ar goll yn eu tristwch a’u hadfyd. Alltudion ydynt, yn hiraethu am Jerwsalem a’r Deml. Yng nghanol y dryswch hwn, dyma neges Eseia: mae Duw’n gwneud ffordd, ffordd yn yr anialwch; ffordd yn nannedd popeth; ffordd newydd a bywiol. Dweud peth felly wnaeth Eseia Broffwyd yn barhaus: cyhoeddi, cyhoeddi a chyhoeddi bod credu yn Nuw yn golygu fod ffordd.
Dileu Tlodi? Mae uchelgais Cymorth Cristnogol yn gwbl anymarferol! Dileu Tlodi yn hyn o fyd? Sgersli bilîf ! Bilîf!
Edrychwch, dw i’n gwneud rhywbeth newydd! Mae ar fin digwydd ... (Eseia 43:19a beibl.net). Hawlio yfory er gwaethaf heddiw yw gorchest ffydd bob amser.
(OLlE)