Da fyd ym yw dyfod Mai ...
Sgersli bilîf Dafydd!
Mynnwn, pe nef a’i mynnai,
Pe’i ddeuddeng mi fo mis Mai.
Dafydd ap Gwilym! Bydd dawel!
Adolygu ym yw dyfod Mai ...
Os ydych yn wynebu ar Arholiadau, neidiwch i’r cymal "Mae arholiadau’n bwysig ..."
Os ydych yn wynebu ar Arholiadau, ac wedi glân a llwyr syrffedi eisoes ar bobl yn dweud "Mae arholiadau’n bwysig ...", neidiwch i’r 'Gweddi cyn Arholiad'.
Daeth Mai â thrysorau ei chalon lân
i lonni holl anian â cherdd a chân ...
‘Roedd Talhaearn - mae’n amlwg - yn gwybod dim am na TGAU, AS na Lefel A!
Mae’r dydd yn ymestyn ym mis Mai; amser yn ystwytho’n barod i hwyl yr Haf. Mae’r haul yn amlycach; mae’r caeau a’r gerddi yn frith o flodau; Llygad y Dydd yn wên i gyd, Dant y Llew â’i hadau ysgafn, yn bwyllog nofio’r gwynt. Pwy nad sydd lawen ym Mai, pan gân yr adar mor soniarus? Pwy? Miloedd ar filoedd o bobl ifanc!
I’r bobl ifanc hyn, ein brodyr a chwiorydd, ein plant, ein hwyrion, llyncwyd Mai a Mehefin gan yr hyn a elwid yn ‘Gyfnod Arholiadau’. Nodweddir y cyfnod hwn gan adolygu; adolygu, adolygu eto, ac eto fyth ... adolygu. Ymhlyg yn yr adolygu mae pwysau gwaith; pwysau hunan-ddisgwyliad a phwysau disgwyliadau eraill. Prin iawn yw’r bobl ifanc - er pob brofado i’r gwrthwyneb - nad sydd yn poeni am ei harholiadau. Ie, diflas yw Cyfnod Arholiadau. Mae ‘Diflas’ yn naturiol, ond cam bychan bach sydd o ‘Diflas’ i ‘Llethol’; hawdd o’r herwydd yw ‘Unig’, ac mae ‘Unig’ yn beryglus o agos at ‘Digon-yw-Digon’.
Rhaid wrthynt ...
Rhaid wrth arholiadau ...
Torrwn lwybr ein bywyd trwy gyfrwng ein llwyddiannau, cyflawniadau a chyraeddiadau. Mesurir ein cyraeddiadau, cyflawniadau a llwyddiannau gan arholiadau ac asesiadau. Mae graddau da yn palmantu’r ffordd i swydd dda; golyga swydd dda mesur dda o ddedwyddwch byw. Rhaid cytuno fod hyn yn wir - i raddau’n wir o leiaf.
Daw’r ffordd yma o feddwl am fywyd yn llachar amlwg yn ystod 'Cyfnod Arholiadau'. Mor llachar nes bwrw gwirioneddau eraill i’r cysgodion. Rhaid cytuno fod hyn hefyd yn wir: gall, ac fe fydd trwch o bethau na ellir ei mesur na’i hasesu yn llywio a lliwio ein bywyd. Amgenach bethau yw’r rhain na Lefel A, AS a TGAU. Gwyddom fod hyn yn wir; ond yn ystod 'Cyfnod Arholiadau' hawdd iawn yw anghofio’r hyn a wyddom: nid yn ôl A*-E y mae mesur person.
Mae arholiadau’n bwysig. Mae hynny mor amlwg â hoel ar bost! Dwi ddim yn awgrymu nad oes angen adolygu! Rhoddais gynnig ar hynny fy hun wrth baratoi i’m Lefel A. Mi allaf Eich sicrhaU nad yw’n gyfrwng eFfeithiol! Gweithiwch! Mae’r gweithio hwnnw yn gyfrwng i ddod a’ch potensial i’r amlwg. Ond wrth adolygu, fel gyda phob peth rhaid cadw persbectif. Peidiwn â chaniatáu i arholiadau, a’r graddau a ddisgwylir gennym ein diffinio. Cyfryngau ydynt, nid nodau.
I gadw persbectif - cadw’n gall hynny yw - mynna amser i wneud mymryn o ddim. Nawr ac yn y man; rhaid gwneud dim. Nid trwy’r amser wrth reswm! Er mwyn llwyddo i wneud llawer, rhaid mynnu ychydig o amser i wneud ... dim. Ymlacia; anadla’n ddwfn a phwyllog. Cliria dy ben. Dyma sydd angen weithiau: canolbwyntio ar wneud dim. Wedi’r cyfan, er holl sŵn y taranau, y mellt oedd yn ergydio.
Gwna rhywbeth. Wedi bod wrthi’n adolygu; cer i wneud rhywbeth. Cer allan am dro; symuda, ystwytha, cerdda, rheda, seicla: deffra’r endorffinau
Gwna rhywbeth arall - rhywbeth ti’n mwynhau. Egwyl fach o flaen teledu. Myn gyfle i fwyta rhywbeth da - nad sydd o reidrwydd yn iach. Myn air gyda rhywun sydd yn siŵr o beidio trafod adolygu ac arholiadau, disgwyliadau a dewisiadau. Mae mam-gu/nain a thaid/tad-cu fel arfer yn dda iawn am y fath yna o sgwrs. Llesol weithiau yw bod yn brysur brysur yn gwastraffu amser.
Gwna rywbeth o werth. Llyncir bywyd gan adolygu. Aeth bywyd i gyd ar goll ym manylion d’amserlen arholiadau a’th gynllun adolygu. Myn amser i wneud rhywbeth o dragwyddol bwys: ffonia ffrind, ymwêl â’r anghenus, cefnoga elusen. Enghreifftiau yw'r rhain, fe wyddost beth sydd i ti bwysig. Yng nghanol yr adolygu, ac er waetha’r arholiadau cofio gwneud rhyw bethau gwerthfawr.
Mae arholiadau’n bwysig; pwysig iawn ydynt, ond nid ti yw dy raddau. Gall graddau fesur, ond byth disgrifio'r hyn ydwyt. Maddeued y Saesneg: Grades quantify but never qualify. Graddau hunan-barch a pharch at eraill, cyfiawnder, trugaredd, a rhyddid-ysbryd yw’r graddau pwysicaf - i chi, fel i bawb.
Gweddi cyn Arholiad
O! Dduw, fy Nuw, wrth i mi sefyll yr arholiad hwn diolchaf i Ti fod fy ngwerth i ddim wedi ei seilio ar fy mherfformiad, ond ar dy gariad mawr Di tuag ataf. Gofynnaf i Ti ddod i’m calon er mwyn i ni gerdded drwy’r profiad hwn gyda’n gilydd. Helpa fi nid gyda’r prawf hwn yn unig, ond gyda’r holl brofion mewn bywyd sy’n siŵr o ddigwydd i fi. Wrth i fi sefyll yr arholiad hwn gwna i fi gofio popeth wnes i ei astudio, a bydd yn garedig ynglŷn â phopeth y bûm yn esgeulus ohonynt. Helpa fi i ganolbwyntio ac i beidio cynhyrfu; i fod yn hyderus yn y ffeithiau i gyd ac yn fy ngallu, ac yn hollol siŵr, beth bynnag fydd yn digwydd heddiw dy fod Ti yno gyda fi. Amen.
Os ydych yn byw o dan yr un to â rhywun sydd yng nghanol Cyfnod Arholiadau, dyma i’ch sylw ychydig o anogaeth yr Apostol Paul: Byddwch yn gytûn ymhlith eich gilydd ... Peidiwch roi’r argraff eich bod yn gwybod y cwbl. Gwnewch bopeth allwch chi i fyw mewn heddwch ... (Rhufeiniad 12: 16a BCN; 16b a 18 beibl.net). A phan ddaw Cyfnod y Canlyniadau ... cofiwn, pawb ohonom: Llawenhewch gyda’r rhai sy’n llawenhewch, ac wylwch gyda’r rhai sy’n wylo (Rhufeiniad 12:15 BCN). Wedi’r cyfan ... Na fernwch wrth y golwg, eithr bernwch farn gyfiawn (Ioan 7:24 WM).
(OLlE)