‘Room For Hope’, Seyed Alavi (gan. 1973)
'Room for Hope'; Canolfan Gymunedol George Sim; Sacramento, Califfornia
Daw’r gyfres 'Deugain a Deg' i ben gyda darn o gelfyddyd gysyniadol - conceptual art. Seyed Alavi sydd biau’r gwaith. Mae Alavi yn Fwslim, ac yn byw a gweithio yng Nghaliffornia. Enw’r gwaith yw Room for Hope.
Gwelir amlinelliad o dŷ, gyda choeden yn tyfu yn ei ganol. Adeiledd o ddur ydyw, coch. Pedwar wal, a chrëir bob un o un o bedair llythyren y gair HOPE. Daw hynny’n amlwg dim ond wrth gerdded o gwmpas y tŷ.
Gan fod y tŷ wedi ei adeiladu o lythrennau ‘Hope’, gellid derbyn y goeden byw fel darlun o fywyd. Tyf bywyd - ffynna pob peth byw - o fewn ‘muriau’ Gobaith.
Mae pren ein ffydd yn tyfu oddi mewn i furiau’r pedair llythyren: I-E-S-U.
Cododd Iesu!
Un, daeth un yn ôl
dros riniog y tywyllwch;
daeth un yn ôl.
Dros ffin y cnawd marwol
y mae dystiolaeth, y mae
tystiolaeth fod yno oleuni sy’n anorchfygol.
(‘O Farw’n Fyw’;
Gwyn Thomas
‘Symud y Lliwiau’, 1981. Gwasg Gee)
Do, cododd Iesu! Am hynny, nid oes yr un sefyllfa ddynol yn anobeithiol mwyach.
Ffydd yn ei flodau yw Gobaith. Y mae Ffydd yn datgan fod Duw yn bod, a’i fod yn ein caru ni. Y mae Gobaith yn gweithredu ar y ffydd honno ac yn ein hannog i geisio Duw ym mhopeth a phawb. Gobaith yw grym Ffydd. Heb Obaith mae Ffydd yn disgyn yn ddarnau, ac yn y diwedd yn darfod amdano. Ebrill heb friallu yw Ffydd heb Obaith - Gwanwyn heb ŵyn bach. Trwy Ffydd ‘rydym yn canfod llwybr Cariad, ond Gobaith yn unig sy’n cadw ni ar y llwybr hwnnw.
F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen
(OLlE)