Mae’r holl beth yn ddigon hawdd mewn gwirionedd - ychydig o flawd a dŵr yn gymysg, pinsied o halen; tomato, caws a mymryn o oregano efallai. Hawdd ddigon, a digon rhad; hyd yn oed o daenu ychydig o pepparoni a jalapenaos arno mae’r hyn a delir am y cynhwysion yn fach iawn iawn i gymharu â phris y pitsa. Mae’r Mark up yn anhygoel o uchel, ond does fawr o wahaniaeth gan neb: mae’r rhan fwyaf helaeth ohonom yn dwli ar bitsa.
Mae ambell bitsa yn gwneud gwahaniaeth. Yn ôl ym mis Tachwedd 1966 trwy ryfedd gyfuniad o sychwynt mawr yn chwythu ar draws y Môr Adria, storm mellt a tharanau mwy na’r cyffredin, a thynfa’r lleuad lawn, cododd y llanw uchel yn Fenis, 5 troedfedd yn uwch na’r arfer. Bu’r difrod yn enfawr, a sefydlwyd cronfa i ddiogelu Fenis rhag y fath ddifrod eto: The Venice in Peril fund. 10 mlynedd yn ddiweddarach, daeth hwb go sylweddol i’r gronfa honno pan grëwyd pitsa arbennig gan berchennog un gadwyn enwog o fwytai Eidalaidd. Enw’r pitsa yw’r Veneziana. Yn ôl ym 1977, ‘roedd y Veneziana yn costio 90c, a 5c yn mynd i’r Venice in Peril fund. Heddiw mae’r Veneziana’n ddrutach o dipyn, ac mae ychydig o arian yn mynd o hyd i gadw Fenis uwchben y dŵr. Does neb yn byw ar y llawr cyntaf bellach yn Fenis. Buasai’r môr yn arfer gafael yn Sgwâr Sant Marc efallai pedair gwaith y flwyddyn ers llawer dydd. Bellach, oherwydd newid hinsawdd, mae gwyddonwyr yn amcangyfrif y gallai’r Sgwâr hyfryd hwnnw fod o dan dŵr deg ar hugain o weithiau os nad fwy bob blwyddyn. Mae’r gwerthwyr hufen ia yn Fenis, hefyd yn gwerthu Wellingtons.
2012
Llwyddodd John F. Kennedy (1917-63) i ddal a chyfleu ysbryd ei gyfnod yn ym 1963 gyda’r geiriau: Ich bin ein Berliner. Mae angen dybryd i un o arweinwyr byd i gyhoeddi, a hynny o ddifrif: Sono un Veneziano. Pobl Fenis ydym bob un, mae pawb yn Fenis erbyn hyn. Aeth byw y tu allan iddi yn amhosibl. Daeth amser am bitsa newydd - llawn amrywiaeth blasus. Buasai ei holl gynhwysion yn dymhorol, ac o ffynonellau lleol. Mae’r hafaliad yn syml iawn mewn gwirionedd: po fwyaf o dir a rhoddir i amaethyddiaeth leol, a po fwyaf o gynnyrch a dyfir yn, ac o gwmpas ein dinasoedd, y mwyaf diogel a fyddwn rhag y llifogydd. Hynny neu, wedi i Fenis ddiflannu bydd rhaid creu Pitsa arall i achub Tuvalu, Kiribati, Mumbai, Lagos, Tokyo, Buenos Aries, Bangladesh, yr Iseldiroedd heb anghofio sawl ardal yma yng Nghymru.
(OLlE)