Bu disgwyl eiddgar am y Sul hwn. Cofiwn am lawer ymweliad o eiddo’r pregethwr gwadd â Minny Street a’i ddull deniadol o bregethu. Braint oedd cael cwmni unwaith eto, y Parchedig Euros Wyn Jones (Llangefni). Mae Euros yn Gyfarwyddwr Coleg yr Annibynwyr Cymraeg a gwyddom am y gwaith clodwiw y mae wedi ei gyflawni dros nifer o flynyddoedd ym maes Addysg a Hyfforddi gydag Undeb yr Annibynwyr. Mae cysylltiad ychwanegol rhwng Euros â Minny Street a hynny drwy gyfrwng Huw, Mari a Lowri - tri o’r teulu fu’n ffyddlon yn ein hoedfaon yn ystod eu cyfnod fel myfyrwyr yng Nghaerdydd.
Elen Morlais fu’n arwain defosiwn yr Oedfa Foreol. Benthycwyd geiriau Elfed (1860-1953) yn weddi:
Arglwydd Iesu dysg i'm gerdded
Drwy y byd yn ôl dy droed
Chollodd neb y ffordd
Wrth dy ganlyn di erioed
Mae yn olau
Ond cael gweld dy wyneb di.
(CFf:710)
Haeddai’r myfyrdod ei gofnodi’n llawn:
Wedi wythnos llawn ansicrwydd mae pawb, yr etholwyr a'r gwleidyddion, i weld yn chwilio am atebion; chwilio am ffyrdd newydd o gydweithio. Rhaid chwilio am reolau newydd.
Mae'r Beibl yn cynnig hyn i ni gyd, ac fel ysgol Sul ‘rydym wedi bod yn ystyried y deg rheol gynigodd Duw a Moses i ni. Bu'r plantos bach wythnos diwethaf yn cyfrannu at storom syniadau a dyma oedd eu saith 'gorchymyn' nhw:
- Bod yn neis
- Dim snatsho- rhannu'n deg
- Dim bod n gas - i ffrindiau, brodyr a chwiorydd, mam a dad
- Rhoi dŵr i’r blodau
- Dim cnoi na bod yn dreisgar
- Cynnwys ffrindiau wrth chwarae pêl droed
- Dim dweud celwydd
Y rheol bwysicaf oll yn ôl pleidlais y plant dan 7 oed oedd 'Bod yn neis'. Un o reolau pwysicaf y Beibl.
Wrth i ni helpu ein gwleidyddion i feddwl am y rheolau gorau i'n gwlad ac i'r byd gadewch i ni eu hatgoffa o'r rheolau pwysig yma a rheolau pwysig Duw.
Cydiodd Euros ym myfyrdod Elen wrth rannu neges â phlant a phlantos y Set Fawr. ‘Roedd ganddo bêl. Pa fath bêl tybed? Pêl-droed wrth gwrs! Gofynnodd i’r plant os oeddent yn gwybod beth oedd arwyddair tîm pêl-droed Cymru. ‘Roedd Tomi’n gwybod! ‘Roedd yn gwisgo crys pêl-droed Cymru! 'Gorau Chwarae, Cyd Chwarae' yw arwyddair ein tîm pêl-droed. Bu Euros yn ymchwilio. ‘Roedd yn gwybod mai 'Mentro Breuddwydio' yw arwyddair tîm pel-droed Gogledd Iwerddon; yr Almaen: 'Ni yw’r pencampwyr'. 'Un tîm, un breuddwyd' yw arwyddair tîm Lloegr, ac 'Ein cryfder, ein hangerdd' yw arwyddai tîm Ffrainc. Gan gydio eto ym mhrif ‘orchymyn’ plantos yr Ysgol Sul: 'Bod yn neis' awgrymodd Euros mae dyma ewyllys Iesu ar gyfer ei ffrindiau i gyd. Cydweithiwn, cydaddolwn, cyd-weddïwn, o’r ieuengaf i’r hynaf - 'Gorau chwarae, cyd chwarae' - i sicrhau fod pawb yn gwybod am gariad Duw yng Nghrist.
Ym mhregeth y Bore, gan gydio yn 3 dameg: Dameg yr Heuwr (Luc 8:4-8); Dameg y Ddwy Sylfaen (Luc 6:46-49) a Dameg y Deg Darn Aur (Luc 19:11-27) awgrymodd Euros y gellid gweld yn yr Had, y Sylfaen a’r Stiwardiaeth yr hyn y mae Iesu yn galw arnom i gyflawni.
Gelwir arnom i hau’r had; ym mhob ffordd, ym mhob man - dim ond hau’r had. Gofala Duw am y cynhaeaf.
Gelwir arnom i adeiladu bywyd a byw a’r sylfaen gadarn. Nid oes cadarnach sylfaen na Iesu Grist a’i gariad mawr.
Gelwir arnom i fod y stiwardiaid o’r hyn a ymddiriedwyd i’n gofal gan Iesu. Ymrown i’r gwaith, yn eofn, yn fentrus, heb gywilydd.
Neges ddwys a llawn bendith oedd gan ein cennad gwadd yn yr oedfa liw nos. Un gair o destun oedd ganddo: Analusis. Gwelir y gair yn yr adnod hon o 2 Timotheus: Daeth awr fy ymddatodiad yn agos (2 Timotheus 4:6 WM). Machlud Apostol: mae Paul yn ymwybodol bod ei waith ef wedi dod i ben, a bod ei holl obeithion bellach wedi eu sefydlu ym mherson Timotheus. Eglurir y cyfan oll o’r ail lythyr hwn yn yr un adnod hon: Oherwydd y mae fy mwyd i eisoes yn cael ei dywallt mewn aberth, ac y mae amser fy ymadawid wedi dod (4:6 BCN). ‘Does dim mor ddwys â gweithiwr yn diosg ei waith, a chyflwyno’r ymgyrch i arall. Mae Paul yn ymwybodol fod y diwedd yn agos: myfi yr awron a aberthir (4:6 WM). Defnyddia symbol arall i fynegi’r un ffaith: Daeth awr fy ymddatodiad Analusis yn agos. Y mae ymddatod yn air a ddefnyddir i ddynodi sawl gweithgarwch, megis rhyddhau’r rhaffau a glymai’r llong yn yr harbwr, ceffyl yn dod yn rhydd o’r tresi, teithiwr yn codi ei babell, athronydd yn datrys pos neu ateb cwestiwn. Wedi trafod hyn oll, bu Euros yn ymdrin ag arwyddocâd Analusis i ni. Gwyddai Paul fod buddugoliaeth Iesu yn warant o fuddugoliaeth gyffelyb i’w bobl ef. Datodwyd y cwlwm annatod gan Iesu - nid oes i fywyd bellach orwel na ffin. Bu neges Euros yn foddion i’r rheini yn ein plith mewn galar a phrofedigaeth, y rhai sy’n unig ac n isel eu hysbryd.
Da heddiw, oedd cael derbyn o weinidogaeth Euros. Diolch am fendithion y Sul.