'GENESARET'

Wedi croesi at y tir daethant i Genesaret ac angori wrth y lan. (Marc 6:53)

Wel, mae’n amlwg beth oedd testun ein trafodaeth wrth i’r cwmni - ychydig yn llai nag arfer heddiw - ymgynnull yn hwyr y bore am baned a sgwrs yn Terra Nova: Canlyniad Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd. Ofer oedd ceisio ffrwyno’r drafodaeth honno. Bu’r cwmni bychan yn lleisio gofid, mynegi siom a chyd-estyn am obaith. Gyda’r drafodaeth honno’n tawelu mymryn manteisiodd ein Gweinidog ar y cyfle i dynnu’n sylw at un o gerddi Robert Frost (1874-1963). Cyfaddefodd fod cerddi fel The Road Not Taken, a Stopping by Woods on a Snowy Evening fel asbrin i’w enaid. The Armful oedd testun ein sylw heddiw. Dyma hi.

For every parcel I stoop down to seize

I lose some other off my arms and knees,

And the whole pile is slipping, bottles, buns -

Extremes too hard to comprehend at once,

Yet nothing I should care to leave behind.

With all I have to hold with hand and mind

And heart, if need be, I will do my best

To keep their building balanced at my breast.

I crouch down to prevent them as they fall;

Then sit down in the middle of them all.

I had to drop the armful in the road

And try to stack them in a better load

Adrodd stori, syml ddigon am ddyn yn cario gormod o bethau mae’r gerdd, ac mae’r pentwr o bethau sydd ganddo yn ei freichiau yn anesmwytho, yn symud ac yn dechrau llithro o’i afael. Gwna’r dyn ymdrech go lew, er tegwch i gadw trefn, a dal ei afael ar yr holl bethau hyn; ond ofer yr ymdrech, ac mae e’n sylweddoli hynny:

I crouch down to prevent them as they fall;

Then sit down in the middle of them all.

I had to drop the armful in the road

And try to stack them in a better load.

‘Roedd y cwmni’n gytûn fod trwch o bethau yn gwasgu ar ein hadnoddau o amser, egni ac amynedd. Onid oes pawb ohonom a llond ein breichiau o wahanol bethau? Yn wir, mae’r rhan fwyaf helaeth o’r pethau yr ydym yn cario o ddydd i ddydd yn bethau anhepgor i’r hyn ydym. Ni allwn eu gosod o’r neilltu a pharhau ar ein taith hebddynt! Cwbl ofer yw unrhyw gyngor a awgryma ffolineb felly! Nid oes awgrym o hynny yn y gerdd hon, mae Frost yn gallach na hynny o lawer. Yr awgrym sydd ganddo’n syml iawn yw bod rhaid ar adegau, i ni ollwng y pentwr o bethau i ni’n cario’n feunyddiol, i’r llawr: I had to drop the armful in the road, a gwneud hynny nid mewn anobaith a diflastod, ond er mwyn cael gwell trefn arnynt.

Mae Cwrdd Gweddi, Oedfa a Seiat yn gyfle i wneud hynny. Ynddynt a thrwyddynt, cawn gyfle i osod yr holl bethau sydd gennym i’w cario ar y llawr, ac wedyn, yng ngoleuni buddugoliaeth Crist, yng ngwawl cariad Duw: try to stack them in a better load. Cytunwyd nad yw cariad Duw a buddugoliaeth Crist yn newid dim a’r ffeithiau ein byw - erys gwaith, erys disgwyliadau, erys hiraeth - ond, yn, ac oherwydd buddugoliaeth Crist a Chariad Duw cawn nerth i gyflawni’r gwaith, i dderbyn y disgwyliadau, i ymdopi â’r hiraeth, ac i fyw yn llawn a dwfn.

Da a buddiol ‘Genesaret’. Diolch i Terra Nova am y croeso cynnes arferol.