Penderfynwyd ymadael …
Brwd bu’r ymgyrchu.
Gwelsom ymrannu ac ymrafael.
Ymlaen bellach yw’r unig ddewis.
Ymlaen i gyfnod anodd, ansicr.
Ymlaen gan ailddiffinio ein perthynas â gweddill Ewrop.
Ymlaen â pharch: Goddefwn ein gilydd ... (Colosiaid 3:13).
Ymlaen gan ymroi i ddarganfod gwrthgyffur i’r gwenwyn a ddaeth gymaint rhan o’n gwleidydda’n ddiweddar.
Ymlaen gan ymroi i sicrhau parch a derbyniad i’r rheini, yma o ledled byd, sydd yn cyfrannu gyda ni at amlochredd cyfoethog ein cymunedau.
Ymlaen, heb ymynysu.
Ymlaen, heb haerllugrwydd.
Ymlaen, heb anobeithio.
Boed i Dduw ein cynnal a’n cadw, gan feithrin ynom ddeall a chyd-ddeall, fel y gellid cofio ac annog-gofio: Mor dda ac mor ddymunol yw i bobl fyw’n gytûn (Salm 133:1).
(OLlE)