Hap a damwain ... Ddoe, wrth chwilio a thwrio silffoedd y siop elusen leol, gwelais lyfr Cymraeg. Perthyn y llyfr hwn i Gyfres Cwmpas. Yn ôl y rhagymadrodd y bwriad tu ôl i Gyfres Cwmpas yw i bob cyfrol gydio mewn rhyw un thema, a honno’n pontio mwy nag un maes. Mae hwn, y cyntaf, yn tynnu ynghyd hanes, daearyddiaeth, gwleidyddiaeth, cymdeithaseg, gwybodaeth am ieithoedd, chwedl a mytholeg. Pa thema sy’n dal y cwbl ynghyd? Ewrop.
B’le Mae Ewrop? (gol. Dafydd Glyn Jones a John Ellis Jones; Gwasg Gee, 1976). Yn y bennod gyntaf mae Dr Bruce Griffiths, (a oedd, pan gyhoeddwyd y llyfr, yn ddarlithydd yn Adran y Ffrangeg, Coleg y Brifysgol, Bangor), yn trafod ‘Ewrop - A oes fath le?’, ac yn dangos yn grefftus mai cymysgedd o draddodiadau ... yw’r traddodiad Ewropeaidd. Ynddo mae elfennau Cristnogol, Iddewig a Mwslimaidd - elfennau Asiaidd i gyd. Ac o Asia, gyda llaw, y daeth pethau hanfodol inni, megis llythrennau’r wyddor, a fathwyd gan y Phoiniciaid a’u benthyca gan y Groegiaid. Hindŵiaid ac Arabiaid a ddyfeisiodd y ffigyrau a ddefnyddiwn ni; meddyliwch am weithio swm â rhifolion Rhufeinig! Yn yr un cymysgedd ceir elfennau Celtaidd a Thiwtonaidd, Slafoniadd a Rhufeinig; traddodiad mordeithwyr ac amaethwyr galluoedd a delfrydau uchel ochr yn ochr â gormes a thrais.
Y gair am drawodd oedd: cymysgedd. Er i ryw bethau newid wrth gwrs ers 1976, erys chymhlethdod a chyfle'r cymysgedd caleidosgopaidd a awgrymir gan Bruce Griffiths. Cawn gyfle heddiw i ymadael neu ymafael â chymysgedd Ewrop. ‘Does neb a wad fod trafferthion yn perthyn i’r ymadael a’r ymafael; bydd y naill benderfyniad fel y llall, yn gorfod arwain at ymdrech a chydymdrech, neu ofer y penderfynu.
Un darn o undonedd moel fyddai bywyd heb amrywiaeth y cymysgedd. Mewn llun, nid un o’i liwiau a’n gwna’n brydferth ond cymysgedd yr holl liwiau. Mewn llun prydferth mae cymysgedd o'r mynydd yn ei fawredd, y graig yn ei gerwinder, y dderwen yn ei hurddas, y glaswellt a’r blodau yn eu symlrwydd, a’r afon yn ei sioncrwydd - cymysgedd y cwbl yn gyfan; y cyfuniad yw prydferthwch.
Nid drwg yw i ni ddymuno rhoi coch neu wyrdd, neu glas neu felyn ein hunaniaeth genedlaethol yn y llun - dyhead naturiol a chyfiawn yw hynny. Y drwg yw mynnu y gallai’r llun fod yn goch, neu’n wyrdd, neu’n las, neu’n felyn i gyd, gan barhau i fod yn llun prydferth.
Peth rhesymol yw i ddyn beintio ei dŷ yn wyn - y mae harddwch yn hynny. Ond os â ati i beintio’r perthi a’r cloddiau a’r coed o gwmpas y tŷ yn wyn yn ogystal ... wel, afresymol llwyr yw hynny.
Sonia Iesu yn y Bregeth Fawr am wyn fyd (Mathew 5:3-11). Credaf mai cynfas yw’r gwynder i gyfraniadau amryliw pob lliw, llun a llewyrch o berson a chenedl. Mae’r gwahaniaeth rhwng campwaith a llanast yn dibynnu i raddau helaeth iawn ar y dewis a wnawn: cymysgedd o liwiau neu dim ond un lliw - ein lliw.
(OLlE)