heddiw’n 'National Poetry Day', dyma ‘Capel Minny Street’ gan Llŷr Gwyn Lewis:
Pan fo’r dref yn hydrefu
o’th gwmpas, y ddinas yn ddu,
arogl llaith ar gil y lle,
hydref gweld-isio-adre’;
pan fo twyll mewn canhwyllau,
hedyn o wyll ’di’i hen hau,
tro i mewn, o’r twrw mawr,
am ennyd – mond am unawr,
i’r lle mae’n olau melyn
o hyd, a’r lampau ynghyn.
Mi gei hedd, a chei weddi,
mi gei foes, cei groes, cei gri,
cei daro tiwn, codi’r to,
sŵn arall, a synhwyro,
drwy’r holl fès anghymesur
yma wyrth a saif fel mur,
a’i chael, pan fo’r byd o chwith,
dan ei fondo, yn fendith.
(Her 100 Cerdd 2014)