Music, meddai Louis Armstrong (1901-1971) rywdro, is my way of talking to you.
Yn ei lyfr Leadership Jazz (Doubleday; 1992) mae Max De Pree (gan.1924) yn dadlau mai hanfod jazz da yw gwrando da. Mae angen i bob aelod o fand jazz ymarfer - oriau hir o ymarfer - ond pan mae pob aelod o’r band yn ymarfer y ddawn o wrando’n dda ar weddill y band, mae cerddoriaeth gwir anhygoel yn cael ei greu ganddynt.
Successful organizations are like good jazz bands, meddai De Pree. Fe ellid arall eirio ychydig ar y frawddeg honno heb wneud cam â syniad yr awdur o gwbl: Successful churches are like good jazz bands. Mae doniau unigol yn bwysig, ond rhaid plethu doniau pawb ynghyd. I wneud hynny rhaid wrth barodrwydd i wrando'r naill ar y llall - mae’r ddawn o wrando ar ein gilydd yn ddawn i’w arfer ac ymarfer yn ein plith. Ein gwaith yw gwrando ar ein gilydd a phlethu ein hamrywiol doniau a syniadau i’w gilydd, a chreu rhywbeth hyfryd o’n cydweithio.
Wrth wrando ar ein gilydd, cawn ein hatgoffa fod Duw yn gwrando arnom ni. Gan wrando bob amser gerddoriaeth - llon a lleddf - ein bywyd, mae Duw'n clywed cân ein calon. Gan fod Duw yn gwrando arnom, dylem wrando ar ein gilydd. Dyma gyfrinach eglwys iach.
(OLlE)