Noson o hyfforddiant a gafwyd yng Nghwrdd Chwarter Cyfundeb Dwyrain Morgannwg yng nghapel Bethel, Penarth heno. Croesawyd Julie Edwards, Swyddog Hyfforddiant a Diogelwch y Panel Diogelwch Cydenwadol, i’n plith ac mewn sesiwn hynod ddifyr a dadlennol llwyddodd i grynhoi pwrpas a chynnwys y Llawlyfr Diogelu Grwpiau Bregus sydd bellach ar gael i’w ddarllen ym mhob un o eglwysi’r Cyfundeb. Rhannwyd yr hyfforddiant yn dair rhan: trosolwg sydyn o’r llawlyfr; ymarfer da ynglŷn â recriwtio gwirfoddolwyr, gweithio gyda grwpiau bregus a rhai o’r pethau ymarferol y mae angen eu hystyried; ynghyd â sut i ymateb i bryderon ynglŷn â phlant neu bobl fregus. Diolch i Weinidog, Swyddogion ac aelodau Bethel am y croeso.