Mae 260 o emynau Caneuon Ffydd yn dechrau gyda ‘O’; nid y llythyren ‘O’, ond y dyhead ‘O’, y gobaith ‘O’, yr erfyniad ‘O’, y dathliad ‘O’.
Tudalen 372 a 373 Caneuon Ffydd (Pwyllgor y Llyfr Emynau Cydenwadol; Gomer 2001)
Tua’r un faint o emynau Y Caniedydd oedd yn dechrau gyda ‘O!’, ond yn ddiddorol, penderfynodd golygyddion Caneuon Ffydd, hepgor yr ebychnod o’r ‘O’.
Tudalen xx ac xxi Y Caniedydd (Gwasg John Penry, Abertawe 1960)
Trodd yr ‘O!’ yn ‘O’...
Mae hyn yn ddarlun o grefydd ein cyfnod. Collasom yr ebychnod! Trodd ein ‘O!’ yn ‘O’, a cham bychan bach sydd wedyn, hyd nes i ni golli’r ‘O’ yn llwyr!
Tybed, a fuasai William Williams, Pantycelyn (1717-91) yn fodlon, fod yr ebychnod wedi diflannu o’i
O! Iachawdwriaeth gadarn,
O! iachawdwriaeth glir;
‘fu dyfais o’i chyffelyb
erioed ar fôr na thir..?
(Y Caniedydd: 385; Caneuon Ffydd: 509)
A fuasai Elfed (1860-1953) yn fodlon fod yr ebychnod wedi mynd o’i
O! am yr hedd, sy’n llifo megis afon
trwy ddinas Duw, dan gangau’r bywiol bren..?
(Y Caniedydd: 796; Caneuon Ffydd: 787)
A fuasai John Hughes (1775-1854) yn drist wrth weld ei fod wedi colli nid un, ond tri ebychnod o’i emyn mawr?
O! Anfon Di yr Ysbryd Glân
yn enw Iesu Mawr,
a’i weithrediadau megis tân -
O! Deued ef i lawr!
(Y Caniedydd: 93; Caneuon Ffydd: 568)
Nid damwain a bair i gynifer o’n hemynau ddechrau gydag ‘O!’. Y mae dyhead mawr, effro, gariadlawn ffydd yn yr ‘O!’ yma. Gogoniant eglwys leol yw ei dyhead. Mesur eglwys yw’r hyn mae hi’n dyheu amdano! Pan gollo eglwys ei dyhead am Dduw, cilia ei ffydd, paid ei gobaith, a pharlysir ei chariad. Ein gwaith yw cynnal a chadw'r ‘O!’. Gwyn fyd yr eglwys honno sydd wedi llawn sylweddoli bod yn rhaid dyheu o hyd am ragor o Dduw; heb hynny, awn i ddyheu llai, ac o dipyn i beth fethu a dyheu o gwbl.
Fel y dyhea ewig am ddyfroedd rhedegog, felly y dyhea fy enaid amdanat ti, O! Dduw...(Salm 42:1)
(OLlE)