'Cân i Godi'r Galon' yng nghwmni Gwenan Gibbard, Pwllheli.
Am donic o noson! Cafwyd cân yn hwb i'r galon; cân i feiriol calon; cân fel cusan cysur i ddolur calon. Cafwyd hefyd gân i gyflymu'r galon, a sawdl yn curo'r llawr; hyn oll, a chyfle i gyd-ganu. Y cyfan yn dilyn ei gilydd yn sionc ac esmwyth gan greu 'Cân i Godi'r Galon'.
Mawr ein diolch i Gwenan Gibbard am noson arbennig iawn.
(Gwerthfawrogir nawdd 'Noson Fach Allan' tuag at y noson hon)
Gan edrych ymlaen at y cyfarfod nesaf (20 Hydref): 'Wrth fy Ngwaith' - Gareth Blainey a Hywel Dafydd
Adroddiad Ann Saer
‘Noson i Godi’r Galon’ - dyna’n union a gawsom nos Fawrth 6ed Hydref yn festri Minny Street. Dechreuodd raglen 2015/16 Y Gymdeithas nid gyda bang aflafar a chroch, ond gyda seiniau hyfryd llais swynol a thelyn gyfareddol Gwenan Gibbard, y delynores a chantores oleuwallt o Bwllheli. Prin yw’r cerddorion sy’n canu ac yn cyfeilio iddynt eu hunain, heb sôn am hefyd gyflwyno’r arlwy. Arweiniodd Gwenan y gynulleidfa yn hwyliog esmwyth drwy raglen o ganeuon ac alawon amrywiol, yr adnabyddus a’r cyfoes, yr hen a’r newydd, gan gerdd dantio’n ogystal. Fe wnaeth i ni chwerthin, a hefyd, weithiau, i sobri. Wrth ymuno â Gwenan yng nghytgan ‘Mae Mari fach yn dair mlwydd oed’ ar ddiwedd y noson, nid yn unig y calonnau oedd yn chwyrlio’n ddedwydd, ond fe gododd pawb ar eu traed i ddatgan eu gwerthfawrogiad am noson ddifyr dros ben. A bu mynd mawr ar gryno-ddisgiau Gwenan ar y diwedd hefyd.
Roedd y noson hefyd yn gyfle i ddiweddaru gwybodaeth y gynulleidfa am sefyllfa bresennol cerddoriaeth draddodiadol yng Nghymru. Er bod cymdeithasau megis Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, Cymdeithas Cerdd Dant, Y Gymdeithas Ddawns, Trac a Clera, grwpiau gwerin ac unigolion disglair yn bodoli ac yn weithgar iawn ers cantoedd, am wahanol resymau yn ddiweddar mae yna fath o ddadeni wedi bod yn digwydd yn y maes. Tynnwyd sylw rhyngwladol at gerddoriaeth draddodiadol Cymru gan gyngerdd WOMEX yng Nghanolfan y Mileniwm ddwy flynedd yn ôl, lle bu Gwenan yn cyd-ganu gyda Cerys Matthews (mae eu lleisiau hefyd ar ddisg ‘Hullabaloo’ Cerys) a lle bu llawer o enwogion y maes yn cael cyfle i ddangos eu doniau. Ddwy flynedd yn ôl, hefyd, cafodd Sioned Edwards yr Eisteddfod Genedlaethol syniad ysbrydoledig. Yn lle pabell Tŷ Gwerin, oedd yn ambarél i’r cymdeithasau arferol, fe godwyd iwro, sef wigwam anferth sydd wedi’i dylunio’n drawiadol a deniadol. A dyna i chi lwyddiant ysgubol. Roedd llond y lle bron gydol yr amser. Yn wir, roedd hi’n orlawn i ddigwyddiadau megis y Stomp, y Glerorfa, y Côr Telynau, Rhaglen Coffa Merêd a sawl perfformiad. Hefyd, mae niferoedd o grwpiau ac unigolion ifanc yn ymddiddori o’r newydd yn hanes ein caneuon ac alawon traddodiadol, ac yn eu dehongli a’u canu mewn dulliau gwahanol.
A phwy sydd yn un o’r bobl fwyaf blaenllaw yn yr adfywiad hwn? Gwenan Gibbard, sy bellach yn Gadeirydd Pwyllgor Alawon Gwerin Cymru ac yn perthyn i sawl corff arall yn y maes. Mae’n enwog yn rhyngwladol, ac wedi ennill nifer o gystadlaethau telyn a chanu yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, yr Ŵyl Gerdd Dant a’r Ŵyl Ban Geltaidd. Does dim lle yma i restru’r holl wledydd y bu hi’n ymweld â hwy, ond roedd hi’n amlwg wedi cael ei swyno gan y Wladfa.