...daethant i Genesaret ac angori wrth y lan. (Marc 6:53b)
Paned a sgwrs yn y Terra Nova, Parc Llyn y Rhath
Llun: Mick Lobb geograph.org.uk
Er mai yn Terra Nova y cynhelir Genesaret, nid terra nova - tir newydd - bellach, mo cwrdd â thrafod ein ffydd, rownd bwrdd, dros baned. Daeth cwmni da ynghyd, a buddiol bu’r dod ynghyd.
Man cychwyn y Gweinidog oedd yr amrywiol ganllawiau sydd ar gael i hybu defosiwn personol; soniodd am y fendith a geir o ‘fenthyg’ gweddïau gan eraill, ac mae cyfrolau lawer i gael erbyn hyn, a phob un yn llawn gweddïau sy'n hwb i’n gweddïo. Awgrymodd un bod y Salmau’n ganllaw i weddi. Mae i Lyfr y Salmau le cwbl arbennig mewn defosiwn y Cristion. Mae’n gasgliad digyffelyb. Crynhoir ynddo ddyheadau, ofnau, llawenydd, gobeithion, diolchgarwch a mawl pobl Dduw, a hynny mewn iaith a delweddau rhiniol a chyfareddol. Er cystal y weddi ysgrifenedig, ‘fenthyg’, ‘roedd pawb yn gytûn mai hanfod defosiwn personol yw’r weddi bersonol - ein gweddi ni. Gwaelod y weddi honno yw ein profiad ni o Dduw, ein hangen unigryw, cwbl bersonol amdano. Codwyd y syniad fod 'na weddi a gweddïo, na ellir mo’i mynegi mewn geiriau, boed ar bapur neu ar lafar. Onid yw distawrwydd hefyd yn ganllaw i ddefosiwn personol? Cytunwyd fod distawrwydd yn bwysig, ond bod llonyddwch yn angenrheidiol. Mae Nantlais (1874-1959) yn cyfieithu geiriau Emily May Grimes (1864-1927): Speak, Lord, in the stillness fel hyn:
Yn y dwys ddistawrwydd
dywed air, fy Nuw...
Yn y dwys ddistawrwydd - y llonyddwch - gawn brofi cyffyrddiad Duw. Llonyddwch sy’n llenwi’n heneidiau â’r ymdeimlad o gariad ac o agosrwydd Duw. Yn naturiol ddigon, yn sgil hyn, trafodwyd pwysigrwydd ymdawelu ar ddechrau oedfa, a bod yr ymdawelu hwnnw’n gyfle i gynulleidfa ymsuddo i gymundeb tawel â Duw. Gyda hynny, tynnodd y Gweinidog ein sylw at blethwaith syml y tribwa.
Soniodd yn sydyn, fel oedd patrwm dangos fod gweddi trwy fywyd y Cristion yn gwau. Aeth yn ei flaen i awgrymu bod modd gosod Duw yn y canol: Câr yr ARGLWYDD dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid ac â’th holl feddwl. Dyma’r gorchymyn mwyaf a’r cyntaf (Mathew 22:37,38). Ac yna, yn dawel ac ystyriol nodi tri thestun diolch, neu ofid: Yr wyt yn cadw mewn heddwch perffaith y sawl sydd â’i feddylfryd arnat, am ei fod yn ymddiried ynot (Eseia 26:3).
Tra gwerthfawr iddo ar derfyn dydd, meddai'r Gweinidog, yw defnyddio’r canllaw syml hwn i gofio cofio diolch am fendith cariad a chynhaliaeth gyson dawel Duw. Trafodwyd yn helaeth wedyn yr angen i gofio diolch mewn gweddi. Mewn diolchgarwch y mae darganfod cyfrinach gweddi ac addoli fel dathliad llawen o ddaioni Duw a gorfoledd ynddo.
Soniwyd hefyd, am beryglon canllawiau defosiynol. Cyfryngau ydynt, bob un, i gyrraedd y nod: gweddi, addoliad; cymundeb â Duw. Ymhlyg ym mhob cyfrwng, mae’r perygl o droi’n ddiben. Gall canllaw - pa mor newydd, neu annwyl gyfarwydd bynnag y bo, ddiffodd, yn hytrach na chynnal fflam ein defosiwn, gan droi'n haddoliad yn ffurfioldeb gwag a’n gweddio’n arferiad llwyd, llipa.
Diolch am gwmni’n gilydd, am sgwrs fach a thrafodaeth fawr. Daeth Genesaret - awr yng nghwmni’n gilydd wrth ymyl llyn llonydd Parc y Rhath - â bodd a bendith. Cawsom egwyl fach i ogwyddo ein meddwl at Dduw.