Adnewyddiad (Mathew 19:27)
... beth gan hynny a fydd i ni? Cwestiwn Pedr: onid gwir yw i ninnau holi’r un cwestiwn, yn arbennig dros y cyfnod aeth heibio? Mehefin 23ain ... yn sgil y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd - beth gan hynny a fydd i ni?. Lladd a llanast yn Istanbul: "Mewn oes ysgeler anghyfiawnderau ..." (o Y Deyrnas (James Nicholas (gan. 1928) yn Ffordd y Pererinion, Gomer 2006) - beth gan hynny a fydd i ni?. Ar y ffordd i Gyfarfodydd Blynyddol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn Llanuwchllyn - beth gan hynny a fydd i ni?. Penwythnos yng nghwmni 15 o bobl ifanc Eglwys Minny Street yng Ngholeg yr Iwerydd - gormod o sŵn, gormod o egni, a mymryn o gwsg - beth gan hynny a fydd i ni? Ar y ffordd i Gaerffili i Undeb y Bedyddwyr beth gan hynny a fydd i ni? Beth bynnag yw natur y profiad, peth digon naturiol yw gofyn: beth gan hynny a fydd i ni? O geisio esbonio’r cwestiwn tueddwyd i weld dim ond haerllugrwydd hurt a diffyg ffydd Pedr. Mae gwybod yn hawlio rhyddid i holi: heb fentro holi’r cwestiwn, pa obaith sydd am ateb? Nid profi diffyg Pedr a wna ei gwestiwn, ond dangos cymaint y parch ac mor ddwfn yr ymddiriedaeth yn Iesu. Gwyddai Pedr fod gan Iesu ateb. Anelodd Pedr y cwestiwn mawr hwn at yr unig un oedd yn ddigon mawr i’w ateb. Aethom ninnau i bob math o helynt a diflastod gan i ni wrthod ymgynghori ag Iesu, gwrthod derbyn ei feddwl a gwrthod cyfranogi o’i Ysbryd. Beth bynnag sydd wrth wraidd ein beth gan hynny a fydd i ni?; rhaid anelu’r gofyn at Iesu - yr Atebwr a’r Atebiad. Onid gofyn Pedr yw ein gofyn ni? Mae gennym, fel eglwysi lleol ddewis. Ar y naill law, gallwn adleisio gofyn y gymuned a’r byd, neu gallwn gyfrannu at yr ymdrech i ateb y gofyn.
Adnewyddu ein mawrhad o Dduw: Un o nodweddion ein cyfnod yw amheuaeth; amheuaeth o Dduw ac amheuaeth o bobl. Gwraidd y cyfan yw hunan amheuaeth. Yng nghanol yr holl sôn cyfredol am ymrannu ac ymwahanu, da o beth yw atgoffa’n gilydd ein bod yn perthyn i rywbeth mawr - Teulu Duw. Wrth siarad am Dduw, y peth mwyaf a wnaeth Iesu oedd, nid diffinio na mesur Duw, ond cyfleu ei fawredd. Yn Iesu gwelsom anferthedd anferthol Duw. Dyma weinidogaeth pob Cristion a chenhadaeth pob eglwys leol. Rhannwn gydag eraill, a heb gywilydd, yr hyn oll o Dduw a welwn yng Nghrist ag eraill.
Adnewyddu ein cymdeithas yn Nuw. Mae ffydd yn Nuw yn debyg i dorth o fara. Mae gennym yn unigolion, eglwysi ac enwadau dafell o’r gwir, ond nid ni sydd biau’r dorth yn gyfan. Ein braint yw cael cymdeithas gyda phobl Dduw; mae’n ddyletswydd arnom wneud yn fawr o’r gymdeithas honno. Fe gawn allan o gymdeithas pobl Dduw yn unol â’r hyn a roddwn i mewn iddi ... yng Nghymru ... yn Ewrop ... ledled byd. Canys felly carodd Duw y byd ... (Ioan 3:16). Gwyddom fod y byd yn gorwedd mewn drygioni (1 Ioan 5:19) ond mae hefyd yn gorwedd yng nghalon Duw. Yng nghalon Duw ceir Iesu, yr Ysbryd Glân a’r byd. Dyma sicrwydd ein ffydd; dyma warant ein gobaith. Er mewn cawl arswydus, gwyddom fod Duw yn caru’r byd. Lledodd Duw ei gariad yn eang, lledwn ninnau yn yr un modd ein cariad mor eang ag y medrwn. Rhaid gweld a mynnu gweld ehangder cwmpas cariad Duw, a gwir hyd a lled gogoniant Iesu fel yr un sy’n gwisgo’r enw sydd goruwch pob enw. Camp y gymuned ffydd yn lleol yw gweithio a chydweithio i ystwytho'r gair bach dwy lythyren ‘ni’ nes ei wneud cyfled â’r byd!
Adnewyddu ein hymateb i Dduw. Mae Duw yn bresennol yn holl brofiadau bywyd: "... llond pob lle, presennol ym mhob man" (David Jones, 1805-68; C.Ff.76). Mae adnewyddu ein hymateb i Dduw yn golygu gwneud yr hyn allwn i ddileu’r ffin rhwng y seciwlar a’r cysegredig. Rhaid edrych ar y byd â llygaid Crist, gan weld Duw ar waith yn ein byd, a chydnabod ein gilydd fel brodyr a chwiorydd ... rhaid wrth ‘ni gyda’n gilydd gyda Duw’. Adnewyddwn ein hymateb i Dduw, trwy weddnewid ein hymateb i bobl Dduw.
Pwy a wad fod angen ein hadnewyddu yn y pethau hyn i gyd? Mae adnewyddiad cymuned, cenedl a byd yn ddibynnol arnom ni mewn cymunedau ffydd bychain, lleol yn adnewyddu ein hymateb i Dduw, ein cymdeithas yn Nuw a’n mawrhad o Dduw.