I ddechrau, stori am Abraham Lincoln (1809-1865). ‘Roedd y Rhyfel Cartref yn ei hanterth, a Lincoln yn annerch tyrfa o bobl. Wrth siarad, torrodd ddyn ar ei draws, gan ofyn pam nad oedd yr Arlywydd Lincoln - o’i safle o rym a dylanwad - yn syml ddatgan fod caethwasiaeth bellach ar ben, a’r caethweision yn rhydd bob un. Credai hwn o’r dyrfa, bod ateb syml iawn i sefyllfa eithriadol ddyrys! ‘Gwrandewch’, meddai Lincoln wrtho, ‘pe bai fi’n dweud wrthych mai coes oedd cynffon yr oen; sawl coes buasai gan yr oen?’ ‘Pump’, atebodd y dyn. ‘Nage wir!’, atebodd Lincoln, ‘Pedair! Mae galw cynffon yn goes ddim yn golygu mai coes yw’r gynffon.’
Yn sgil canlyniad Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd gwelsom wleidyddion amlwg yn lafurus-fwriadus yn datod pwythau’r addewidion mawr a wnaethpwyd ganddynt cyn y pleidleisio. Â hwythau wedi llwyddo i argyhoeddi pobl mai ‘coes yw’r gynffon’, mae’r gwleidyddion hyn bellach yn prysur ddadlau na fu iddynt erioed awgrymu fod cynffon yn unrhyw beth ond cynffon. Mae’r gwirionedd syml, diaddurn, disglair galed am beth fydd yn digwydd nawr yn mygu o dan drwch o eiriau gwag a gor-addunedau ofer.
Ta faint bynnag mae pobl - pwy bynnag y bont - yn mynnu mai ‘coes yw’r gynffon’, erys cynffon yn gynffon. Rhaid bellach, wrth ddidwylledd a thrylwyredd. Yn y ddau beth hyn ceir iechyd a gobaith i’n gwleidyddiaeth a'n gwleidydda.
Os nad ydym yn fodlon derbyn hyn o sefyllfa gyda rhyw ‘fel 'na mae hi’ a ‘fel 'na bydd hi’ o ymateb, bydd angen i ti a fi osod esiampl i’n gwleidyddion, trwy feithrin trylwyredd a didwylledd yn ein hymwneud â’n gilydd fel unigolion, eglwysi, ac fel cymunedau ffydd a diwylliant. Anodd hyn, ond anhepgor mewn cyfnod na wŷr i ba gyfeiriad i droi. Ni fu erioed fwy o angen am bobl yn amlygu nad ‘coes yw’r gynffon’, a hynny trwy ddewis byw yn ddidwyll dryloyw.
(OLlE)