Canŵio; dringo; saethyddiaeth initiative exercises, nofio; y gêm ‘Pringles’ flynyddol; dyddiau hir o fwrlwm; nosweithiau hir o siarad a thrafod, ac ym mherfedd nos ... ceisio rhoi taw ar y trafod a siarad! O hyn oll daeth ein Gweinidog i’r Oedfa Hwyrol - ‘roedd golwg gwell na’r disgwyl arno! Diolch i bawb am wneud y penwythnos arbennig hwn yng Ngholeg Iwerydd yn bosibl. Bu ein ffrwd Twitter yn drwm o sôn am y penwythnos, a darperir cofnod o’r hwyl a gafwyd ar y wefan hon yfory. ‘Rydym, fel eglwys yn falch iawn o'n pobl ifanc. Mae hwyl eu cwmni, ac asbri eu ffydd yn donic enaid!
PIMS yng Ngholeg Iwerydd
Cawsom Oedfa dawel heno, gydag Owain yn ein harwain, trwy gyfrwng cwestiwn Pedr: ... beth gan hynny a fydd i ni? (Mathew 19:27 WM) i ystyried yr angen i adnewyddu ein mawrhad o Dduw: Rhannwn gydag eraill, a heb gywilydd, yr hyn oll o Dduw a welwn yng Nghrist ag eraill. Adnewyddwn ein cymdeithas yn Nuw: lledodd Duw ei gariad yn eang, lledwn ninnau yn yr un modd ein cariad mor eang ag y medrwn. Camp y gymuned ffydd yn lleol yw gweithio a chydweithio i ystwytho'r gair bach dwy lythyren ‘ni’ nes ei wneud cyfled â’r byd! Yn olaf, adnewyddwn ein hymateb i Dduw. Rhaid edrych ar y byd â llygaid Crist, gan weld Duw ar waith yn ein byd, a chydnabod ein gilydd fel brodyr a chwiorydd. Pwy a wad fod angen ein hadnewyddu yn y pethau hyn i gyd? Mae adnewyddiad cymuned, cenedl a byd yn ddibynnol arnom ni mewn cymunedau ffydd leol yn adnewyddu ein hymateb i Dduw, ein cymdeithas yn Nuw a’n mawrhad o Dduw.
Ond beth am yr Oedfa Foreol? Â’n Gweinidog yn pregethu yn oedfa gychwynnol Cyfarfodydd Blynyddol Undeb Bedyddwyr Cymru yn Nhonyfelin, Caerffili bore heddiw, ein braint - mawr ein diolch iddo am gamu mor barod i’r adwy - oedd derbyn o arweiniad y Parchedig Eirian Rees (Efail Isaf). Neges brofoclyd ddigon oedd ganddo. Cydnabyddai Eirian y ddau beth hyn: nid partïwr mawr mohono, a hefyd nid hawdd ganddo oedd dangos ei deimladau'n gyhoeddus. Mae’r Testament Newydd yn awgrymu fod Iesu yn dipyn o party goer ac yn barod ddigon i amlygu ei deimladau. Onid 'Annibynnwr' oedd Ioan Fedyddiwr? Parchus; yn dawel ei ymarweddiad gan gadw at y rheolau. I’r gwrthwyneb ‘roedd Iesu yn gymeriad o wir a dwfn cydymdeimlad; personoliaeth gref, anghonfensiynol ydoedd. O dderbyn hynny, beth felly yw litmus test ein ffydd? Dilyn rheolau? Neu greu awyrgylch? Oni ddylai ein crefydda lledu gorwelion, nid crebachu meddwl? Mynnodd Eirian fod gwir grefydd yn ymagor i’r byd. Crefydd wyrgam yw honno sydd yn ceisio ymgilio rhag anghenion byd a gofyn pobl. Da a buddiol felly, oedd dewis yr organydd o hyfryd eiriau W Rhys Nicholas (1914-96) i gloi’r Oedfa:
Agor di ein llygaid, Arglwydd,
i weld angen mawr y byd,
gweld y gofyn sy’n ein hymyl,
gweld y dioddef draw o hyd:
maddau inni bob dallineb
sydd yn rhwystro grym dy ras,
a’r anghofrwydd sy’n ein llethu
wrth fwynhau ein bywyd bras.
(C.Ff. 841)
Alys fu arwain y Defosiwn heddiw, a mawr ein diolch iddi. Wedi darllen hanes porthi’r 5000 o Feibl y Plant, arweiniwyd ni mewn pwt o weddi eithriadol fawr yn diolch i Dduw fod gennym ni gymaint o bopeth; cyn gofyn iddo am gymorth i rannu'r 'popeth' hwnnw'n llawer mwy teg.
Arwyr oedd thema neges Eirian i’r plant. Gofynnodd iddynt pwy oedd arwyr Cymru ar hyn o bryd. Mewn fawr o dro daeth yr ateb amlwg a naturiol: Tîm pêl-droed Cymru a Gareth Bale! Er mor wych eu llwyddiant - a boed iddo barhau! - yw gwir arwyr yw’r rheini sydd yn dawel dawel yn gweithio’n ddygn a dyfal i ledaenu cariad, ffydd a gobaith.
Bu nifer o’n haelodau, gyda’n brodyr a chwiorydd o eglwysi Cymraeg y ddinas, yn brysur yn stondin Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd ar faes Tafwyl dros y penwythnos. Diolch i drefnwyr yr ŵyl am estyn i’r eglwysi’r cyfle i fod a rhan yn hwyl y penwythnos arbennig hwn. Mawr ein diolch i’r Parchedig Dyfrig Lloyd a swyddogion y Cyngor Eglwysi am gael trefn ar y cyfan oll. Hyfrydwch oedd cael cyfle hwn i gyd-weithio a chyd-dystio. Duw a fo’n blaid i ni gyd yn ein gweinidogaeth.