Buddiol a difyr bu'r cyfarfod heno o Gwrdd Chwarter Cyfundeb Dwyrain Morgannwg yn y Tabernacl, Pen-y-bont ar Ogwr.
Ein siaradwr gwadd oedd y Parchedig Robin Wyn Samuel, Swyddog Cynnal ac Adnoddau Cyfundebau’r De a Llundain, Undeb Annibynwyr Cymru. Bu Robin yn weinidog yn Sir Gaerfyrddin rhwng 1977 a 2001, cyn symud i’r Tabernacl, Pen-y-bont ar Ogwr. Yn 2003 penodwyd ef i swydd gyda Cymorth Cristnogol, a bu gyda’r elusen hyd ei ymddeoliad yn Ionawr 2015. Dechreuodd weithio i’r Undeb ar ddechrau Medi 2015
Cawsom ganddo gyflwyniad am natur ei waith, a'i weledigaeth. Soniodd am bwysigrwydd creu adnoddau i'r eglwysi, ond pwysicach oedd crynhoi'r holl adnoddau sydd eisoes ar gael, a'i lledu. Wrth wraidd ei waith hefyd, meddai, mae cynnal gweithgarwch a chyffroi ysbryd cenhadol ymhlith eglwysi'r Cyfundebau.
Deisyfwn fendith Duw ar waith y ddau Swyddog Cynnal ac Adnoddau: Robin a'r Parchedig Casi Jones sydd yn gwasanaethu eglwysi Gogledd Cymru trwy’r saith Cyfundeb.
Boed wenau Duw ar holl swyddogion a staff Tŷ John Penri.