Onid digwydd yn ein hanes yw bendith. Chwiliwch amdano, a ffy ymaith. Fe’m goddiweddyd â bendith mewn siop goffi lleol dechrau’r wythnos: ‘roedd gennyf goffi, a llyfr amlwg diwinyddol. Fel arfer, mae llyfr felly yn sicrhau na fydd neb yn torri gair â chi - ond nid bore fel arfer mo’r bore hwnnw.
Daeth hwn, ac eistedd gyferbyn â mi: ‘roedd ganddo goffi, a llyfr amlwg diwinyddol. ‘Roedd sgwrs yn anorfod.
Gŵr croenddu ydoedd, yn wreiddiol o un o wledydd llai Cyfandir Affrica. Dychmygwch felly: dau Gristion; dau ddiwylliant, dwy ddiwinyddiaeth - un Arglwydd. Daeth yn amlwg fod ganddo ofid amdanom- Gristnogion Cymru - gofid yn pwyso arno fel plwm. ‘Mae’ch ysgwyddau wedi crymu’, meddai ... ‘ofn siarad am Iesu Grist. Ni allwch sefyll yn syth, na gwenu na gobeithio na dathlu’ch ffydd. Ni allwch edrych ym myw llygaid pobl a rhannu’r Efengyl, heb sôn am fod yn ddigon dewr i’w gwahodd i mewn i’r Deyrnas.’ Am ddweud ... ac am wn i ... am ddweud y gwir!?
Wedi ystyried, dwi ‘di teimlo’n ostyngedig lawer tro wrth gyfarfod, a sgwrsio a dysgu gan bobl o eglwysi’r hen ‘wledydd cenhadol’ lle mae’r Eglwys Gristnogol yn gwbl amddifad o’r holl foethau y cymerwn ni hwy yn ganiataol, ond sydd yn iachach o lawer yn ei chenhadaeth a’i gweinidogaeth er gwaethaf hynny - neu efallai, yn union oherwydd hynny.
Wrth ystyried y sgwrs honno, daeth pwysigrwydd tyngedfennol y tair blynedd nesa’ yn amlwg i mi. Ym mhwyllgor Gweinyddol yr Undeb ddechrau mis Tachwedd 2015 penderfynwyd rhoi cefnogaeth i gynlluniau newydd ar gyfer eleni - Blwyddyn y Beibl Byw; 2017 - Blwyddyn Perthnasedd y Beibl a 2018 - Blwyddyn Dathlu’r Genhadaeth Gristnogol.
Mae hen gân gan Stanley Holloway (1890-1982) yn cynnwys geiriau fel hyn: My word, you do look ill, my word you do look ill. Dyn bach sydd yn y gân a phobl wedi bod yn dweud wrtho mor gyson, mor hir ei fod yn edrych yn wael, nes iddo ddechrau credu ei fod ar fin marw! Mae gen i ofn fod pobl, tu faes a thu fewn i’r Eglwys Gristnogol yng Nghymru wedi bod yn dweud mor hir, mor gyson fod ein gweinidogaeth yn edwino, ein gwasanaeth yn llwydo, ein tystiolaeth yn pydru, fel gellir maddau i bobl am gredu fod yr Eglwys ar fin marw, a bod yn rhaid cau drws pob Seion a Salem, pob Calfaria a Horeb, gan ddefnyddio’n hadnoddau - mewn adeiladau a chyllid - yn fwy effeithiol a gonest.
Ond, gan bwyll! Dwi ddim yn credu fod hyn yn ddarlun gwbl gywir. Mae’r dyn bach yng nghân Stanley Holloway yn edrych yn y drych ac yn sylweddoli nad yw pethau mor ddrwg arno ag y myn rhai ganddo gredu, ac y mae’n penderfynu sefyll yn dalsyth a bwrw ‘mlaen a’i fywyd. Gorffen y gân fel hyn: There’s life in the old dog yet. My word I do feel well!
Edrychwn i’r drych. Ydy’r sefyllfa’n anodd? Ydi. A ellir sôn am ‘Argyfwng’? Gellir, gyda gofal. Ydy’r sefyllfa’n anobeithiol? Nag ydyw. Mae bechgyn a merched yn ymateb i alwad Crist i’w wasanaethu - mae cynllun hyfforddiant DAWN Cymru yn brawf o hynny. Mae Cristnogion am ddod ynghyd i ddathlu a dyfnhau eu perthynas gyda’r Duw byw - mae llwyddiant cynyddol Gŵyl Llanw - Gwŷl deuluol ar gyfer holl deulu Crist - yn brawf o hynny. Mae pobl ifanc Cymru yn awyddus i gael darllen Gair bythol newydd Duw - mae’r diddordeb a’r pryniant sylweddol iawn a fu ar Beibl.net yn brawf o hynny. Mae’r ffaith fod dros 350 o bobl yn dymuno derbyn bob dydd gweddi yn gymorth i’w gweddïau trwy gyfrwng cyfrif trydar (Munud Dawel) yn brawf nad yw gweddi a gweddïo wedi darfod o’n tir. Mae pobl yn ymgyflwyno i’r weinidogaeth Gristnogol - mae Rob Nicholls, Mererid Mair a Gwilym Tudur (i enwi dim ond tri) yn brawf o hynny. Mae Cymry Cymraeg yn dod i nabod Iesu yn Waredwr a Cheidwad. Hyn oll, a rhagor a welir, wrth edrych yn y drych.
Ond, wrth edrych yn y drych, rhaid bod yn Procative yn ein gweinidogaeth a’n cenhadaeth. Estynnir i ni dros y tair blynedd nesaf, cyfle i fod yn oleuadau ar fryn yn ein darn bach ni o fyd Duw. Manteisiwn ar bob cyfle a chyfrwng.
I ddod yn ôl at y gŵr hwnnw o Affrica cyn gorffen. ‘Chi’ meddai ‘yw’r Beiblau byw y mae pobl yn ei darllen nawr’. Cyhuddwyd ni ganddo o wyro dan faich gofidiau’r byd: ‘ni allwch sefyll yn syth, na gwenu na gobeithio na dathlu’ch ffydd. Ni allwch edrych ym myw llygaid pobl a rhannu’r Efengyl, heb sôn am fod yn ddigon dewr i’w gwahodd i mewn i’r Deyrnas.’
Gwyn fyd nad allwn ddangos iddo ei fod yn anghywir.
(OLlE)