Diwrnod Cofio’r Holocost. Dyma gyfle i ystyried, fel ag y medrwn, yr anfadwaith hwnnw, a chlywed y lleisiau o’r lludw, a blasu gwaed a dagrau ein cyd-ddyn. Rhaid cofio cofio: Because I remember, I despair. Because I remember, I have the duty to reject despair. (Elie Wiesel, un a oroesodd Auschwitz-Birkenau (g.1928): All Rivers Run to the Sea; Memoirs Volume One 1928-1969. Harper Collins. 1996.)
Gwrando, O! Israel: Y mae’r ARGLWYDD ein Duw yn un ARGLWYDD (Deuteronomium 6: 4)
Shema Yisrael Adonai Eloheynu Adonai eched.
Shema (shem-ah’) Yisrael (yis-ra-el’) Adonai (ad-o-ni’) Eloheynu (el-o-hay’-nu) Adonai (ad-o-ni’) eched (e’-ked):
Gwrando, O! Israel: Y mae’r ARGLWYDD ein Duw yn un ARGLWYDD (Deuteronomium 6: 4)
Boed i lygaid gau...
Boed i ddwylo blethu ynghyd...
Boed i feddwl ymdawelu...
Boed i galon ymagor...
Boed i’r holl ferw sydd ynom ddarfod...
O! Dduw...
Cofleidia ni yn dy drugaredd...
Didola ni oddi wrth ein pechod...
Treiddia trwom...
Chwilia fi, O! Dduw, iti adnabod fy nghalon;
profa fi, iti ddeall fy meddyliau (Salm 139:23).
Shema (Shem-ah’)
Gwrando...
Clyw ein gweddi, ein deisyfiadau, ein dyheadau, gobeithion, breuddwydion: cymod; brawdgarwch; maddeuant; hyder; goleuni.
Clyw sŵn ein difaterwch, esgeulustod ac anwybodaeth...
Clyw sisial ein rhagfarn, enllib, dicter a chas...
Clyw gwaedd ein methiant a chywilydd...
Gwrando...
Dymunwn wrando arnat, ein Duw. Wrth wrando arnat cawn hyder newydd yn dy deyrnas, gobaith newydd yn dy fwriad, ffydd newydd yn dy rym, ac ymddiriedaeth newydd yn dy agosrwydd...
Dymunwn wrando arnat, ein Duw. Yn dy law y mae tynged byd a phobl. Gwneler dy ewyllys a deled dy Deyrnas er gwaetha’n camweddau a’n ffolineb ni.
Yisrael (yis-ra-el’) Israel...
Israel ydym ni, pawb ohonom a phawb ym mhob man: pobl Dduw.
Nyni fel Jacob yn ymgodymu â thi ein Duw...
Ymgodymwn â goblygiadau ffydd, gobaith, cariad.
Ymgodymwn â chanlyniadau ofn, casineb ac anobaith.
Ymgodymwn â ddoe, heddiw ac yfory.
Adonai (ad-o-ni’). Dy enw, yr Enw. Yr enw na wyddai neb ond Ti dy hun. Enw anhraethadwy a dihysbydd. Enw’n fwy na’r enwau i gyd, ond enw wedi ei adlewyrchu ym mhob enw - yn enw pob un o’th blant yn ddiwahân.
Cynorthwya ni i weld ein gilydd fel yw wyt ti yn ein gweld, a thrysori gilydd fel yr wyt ti yn ein trysori.
Eloheynu (el-o-hay’-nu): Ein Duw...Duw cyfiawnder. Duw gyda ni; pan glywir cri’r anghenus a’r amddifad yn ein tir, gwna ni’n barod i ymateb gyda’n gilydd â thrugaredd pendant, mewn hyder ffydd.
Clyw ein gweddi dros bawb sy’n llafurio dros gyfiawnder a rhyddid a phawb sy’n gweithio dros gymod rhwng y crefyddau.
Adonai (ad-o-ni’) ...yn llond pob lle, yn bresennol ym mhob man, d’agosrwydd yn gwmni i ni, d’agosrwydd yn gysur i ni, d’agosrwydd yn gymorth i fyw a chredu. Lle bynnag wyt ti, yr ydym ninnau. Lle bynnag yr awn ni allwn ddianc rhag dy gariad tuag atom, dy ofal amdanom. Mae dy drugaredd fel mur cadarn o’n hamgylch. Fel y buost yn ffyddlon i ni; gwna ni’n ffyddlon i ti ac i’n gilydd.
Eched (e’-ked): Un...Ti yn unig, ti yn unig sydd fywyd; tywyllwch a golau ydwyt; ddoe a heddiw. Llawenydd trist ydwyt a thristwch llon. Ti yw goleuni’r wawr ar ei thoriad; ti yw tywyllwch y machlud. Ti yw goleuni’r haul ganol dydd; ti yw goleuni’r lloer ganol nos. Una’n hysbryd ni â thi dy hun, fel trwy'r undeb agos a bywiol hwnnw y dysgwn fod yn gyfryngau i fendith dy gariad holl gynhwysol.