BETHSAIDA

Cymerodd hwy gydag ef ac encilio o'r neilltu i dref a elwir Bethsaida (Luc 9:10b).

Y mae i’n berthynas â Duw ei wedd gyhoeddus a’i wedd bersonol; rhaid wrth y naill a’r llall. Mae ‘Bethsaida’ yn gyfle ac yn gyfrwng i ehangu ein bywyd defosiynol.

Wedi cyd-ddarllen Salm 23, aethom i’r afael â Gweddi’r Arglwydd. Yn y cyfarfod aeth heibio (12/1) buom yn cymharu’r ddau fersiwn o Weddi’r Arglwydd sydd yn y Testament Newydd, y naill yn Efengyl Mathew (6:9-13) a’r llall yn Efengyl Luc (11:1-4). Heno, cawsom gyfle i weld a thrafod patrwm y Weddi fwyaf un.

Gorchwyl anodd, drudfawr oedd gosod Gweddi’r Arglwydd ar femrwn. ‘Roedd memrwn yn brin, yn costio’n ddrud ac ‘roedd i bob camgymeriad ei bris sylweddol.

Wrth gopïo i’r memrwn, ‘roedd y sgrifellwr yn disgwyl i’r darllenydd nid yn unig i ddarllen a deall y geiriau, ond i weld y patrymau ynghudd yn y geiriau, a’r ffordd eu gosodwyd ar y memrwn. Ceir patrwm geiriol i’r Weddi Fawr; mae iddi hefyd strwythur sy’n arddangos deinamig grymus yr hyn sydd ar waith ynddi. Yn wreiddiol, diben y patrwm oedd cynorthwyo pobl i ddysgu saith deisyfiad y Weddi; tynnai’r patrwm hefyd sylw at galon y weddi.

Saif Ein Tad gyferbyn â’r Un drwg; Y Deyrnas gyferbyn â phrawf, profedigaeth themtasiwn; ac Ewyllys Duw gyferbyn â’n troseddau ni. Rhed dyro inni heddiw ein bara beunyddiol trwy galon y Weddi yn cydio’r pethau hyn i gyd ynghyd. Mae’r tri chymal agoriadol: Ein Tad yn y nefoedd; deled dy deyrnas a gwneler dy ewyllys yn cyfleu ein dyhead am weld Duw yn Frenin Coronog a ninnau’n tyfu’n feunyddiol mewn ffydd, gobaith a chariad.

Mae’r cymalau olaf:...gwared ni rhag yr Un drwg, paid â’n dwyn i brawf a maddau i ni ein troseddau yn amlygu’r pethau hynny sydd yn gwthio Duw i ffwrdd, sydd yn arafu llif dyfodiad ei Deyrnas - drygioni, temtasiwn a phechod. Yn dal y cyfan ynghyd mae’r cymal: dyro inni heddiw ein bara beunyddiol. Rhwng Ein Tad a’r Un drwg mae bara beunyddiol. Rhwng dyfodiad y deyrnas a’r temtasiwn, profedigaeth a phrawf mae bara beunyddiol. Rhyngot ti a minnau yn gwneud ewyllys Duw a phechu yn ei erbyn mae bara beunyddiol.

Ymwna bara â phopeth bywyd: gofal Duw a gweithgarwch pobl; gofynion y cnawd a dyheadau’r ysbryd; trafferthion ysbrydol a phroblemau economaidd, diwydiant a dyletswydd. Calon y Weddi Fawr yw’r gofyn am fara oherwydd dim ond trwy ddod â chyfanrwydd ein bywyd at Dduw, a chynnwys Duw ym mhob peth ein bywyd beunyddiol y daw unrhyw lewyrch arno. Dau ymateb sy’n weddus: dysgu derbyn, dysgu rhannu. Dysg y Weddi sut i droi bywyd i gyd yn weithred, o dderbyn a rhannu, a thrwy’r naill a’r llall mawrhau'r Rhoddwr. Dau fesur sydd i’n crefydd: ein gallu i dderbyn gan Dduw - derbyn cyn lleied yw ein trafferth -: a’n gallu i rannu’r hyn a dderbyniwyd - rhannu cyn lleied yw ein trafferth. Cymerwch yw neges Duw i’w bobl; Cymerwch yw neges pobl Dduw i’r byd.

Yn unol â threfn arferol y cyfarfodydd hyn, aethom yn ein blaenau i rannu arfer dda, neu ddiddorol, o weddïo’n bersonol. Â ninnau’n sefyll yng nghysgod Dydd Gŵyl Tröedigaeth Paul (25/1), a Dydd Santes Dwynwen, rhaid oedd sôn ychydig am y naill a’r llall, heb anghofio Terry a Joy!

Yn Actau 20: 1-2 (Pan beidiodd y cynnwrf, anfonodd Paul am y disgyblion, ac wedi eu hannog, ffarweliodd â hwy, ac aeth ymaith i Facedonia. Wedi teithio trwy’r parthau hynny ac annog llawer ar y disgyblion yno, daeth i wlad Groeg.) mae’r gair annog yn ymddangos dwywaith. Gweinidogaeth allweddol - ond di-sôn-amdani - yw gweinidogaeth annog: annog ein gilydd, annog eraill. Awgrymodd y Gweinidog ein bod yn ceisio annog eraill, a gwneud hynny’n benodol trwy gyfrwng arbennig. Ym mis Ionawr 1987 herwgipiwyd Terry Waite. Treuliodd, 1,763 o ddyddiau yn wystl. Er mawr syndod iddo, derbyniodd gerdyn post gan Joy Brodier.. Dyma gynnwys y nodyn hwnnw:

Dear Terry,

You are not forgotten. People everywhere are praying for your release, and that of the other hostages.

With best wishes,

Joy Brodier

Bu’r nodyn hwnnw’n gysur ac yn gymorth i fyw i Terry Waite. Anogwn ein gilydd, anogwn eraill. Gweinidogaeth allweddol yw’r weinidogaeth hon: Gadewch inni ystyried sut y gallwn ennyn yn ein gilydd gariad a gweithredoedd da ... gan annog ein gilydd ... (Hebreaid 10:25)

Yn ein cyfnod o weddi heno, arweiniwyd ni gan Dwynwen a Paul. Cawsom gyfle’n dawel fyfyrgar i ystyried beth yw lled a hyd ac uchder a dyfnder cariad Duw. (Effeisiad 3:14-20)

Bu 'Bethsaida' eto’n fendith.