CAPERNAUM

Pan aeth hi’n hwyr, aeth ei ddisgyblion i lawr at y môr, ac i mewn i gwch, a dechrau croesi’r môr i Gapernaum. Yr oedd hi eisoes yn dywyll...Yna, wedi iddynt rwyfo am ryw dair neu bedair milltir, dyma hwy’n gweld hwy’n gweld Iesu... (Ioan 6: 16,17 a 19)

... gwedy elwch tawelwch vu ...

Gan ymddiheuro i'r bardd Aneirin, cystal cyfaddef mai profiad felly oedd ‘Capernaum’ heno. Wedi elwch PIMS tawelwch vu. Tawelwch, a drodd yn llonyddwch: defosiwn, gweddi a myfyrdod ar derfyn dydd.

Gweddi Simeon (Luc 2:22-38) oedd testun ein sylw heno. Bychan bach oedd Iesu pan aeth Mair a Joseff ag ef i’r Deml i ddiolch i Dduw amdano. Yn y Deml, gwelodd dyn o’r enw Simeon y teulu bach yn dod. ‘Roedd Simeon yn gwybod mai Mab arbennig Duw oedd y bychan hwn. Gafaelodd Simeon yn y baban Iesu yn ei freichiau gan ganu diolch i Dduw:

Yr awr hon, Arglwydd, y gollyngi dy was mewn tangnefedd, yn ôl dy air: canys fy lygaid a welsant dy iachawdwriaeth... (Luc 2:29 a 30 WM)

Ac yr oedd Joseff a’i fam ef yn rhyfeddu am y pethau a ddywedwyd am dano ef... (Luc 2:30 WM) a hynny’n naturiol, chwarae teg. Dim ond babi oedd Iesu, newydd ganedig. Fe dyf yn ddyn, a phan yn ddyn fe dry’r byd a’i ben i waered; ond babi ydyw nawr, dim ond babi...

‘Roedd y bychan hwn yn eithriadol beryglus. Gwyddai Simeon hynny, gwrandewch: Wele...y bychan hwn...a osodwyd yn gwymp ac yn gyfodiad i lawer (Luc 2:34 WM). Neu yn y cyfieithiad mwy diweddar: ...gosodwyd hwn er cwymp a chyfodiad llawer.

Sylwch eto ar y cymal: ...gosodwyd hwn er cwymp a chyfodiad llawer... cwymp a chyfodiad. Mae’r drefn yn wahanol i’r arferol. Maddeuwch y Saesneg, ond y tueddiad yw sôn am the rise and fall o rywbeth, neu rywun. Rise and fall, ond fall and rise yw trefn Duw: ...gosodwyd hwn er cwymp a chyfodiad llawer.

Deallodd Simeon rhywbeth allweddol pwysig. Gyda llif y flwyddyn bydd pawb ohonom rywbryd, rhywsut yn syrthio - mae’r peth yn anorfod - ond, yn y cyfnod anodd hwnnw, cofiwn mai bwriad Duw ar ein cyfer yw fall and rise, nid rise and fall!

Daeth Mair yn ei thro i ddeall hyn hefyd. Gyda symud y blynyddoedd profodd wirionedd geiriau Simeon: A thrwy dy enaid di dy hun hefyd yr â cleddyf...(Luc 2:35 WM). Yn ymyl croes Iesu yr oedd ei fam ef yn sefyll...(Ioan 19:25) Aeth y diwrnod erchyll hwnnw fel cleddyf i’w henaid. Ond cwymp a chyfodiad yw trefn Duw. Ymhen tridiau, daeth Iesu, mab Mair, yn ôl o farw’n fyw. Yn wir, yn wir, meddai Iesu wrthym, os nad yw’r gronyn gwenith yn syrthio i’r ddaear ac yn marw, y mae’n aros ar ei ben ei hun; ond os yw’n marw, y mae’n dwyn llawer o ffrwyth (Ioan 12:24).

Buddiol y cwrdd hwn heno. Wedi elwch prysurdeb y dydd, cawsom, yng nghwmni’n gilydd gyfle i ganfod o’r newydd tawelwch yr hedd na ŵyr y byd amdano. (Elfed,1860-1953)