Bwriad y Gweinidog ac Arweinwyr eraill PIMS heno oedd parhau i ystyried thema’r mis: ‘5’, ond ‘roedd cymaint o bethau eraill yn digwydd heddiw! Diwrnod Santes Dwynwen a Burns Night! Felly, â’r PIMSwyr yn gylch swnllyd o’i amgylch, cyflwynwyd thema’r noson gan Owain Llyr: Cariad, llaw’r Beibl a Haggis. Bu’r gair ‘Haggis’ yn ddigon i dawelu’r cylch!
Ein man cychwyn, yn gwbl briodol oedd Santes Dwynwen a Chariad mawr ein Duw: rhaid ymgorffori’r Cariad hwnnw yn ein hymwneud ag eraill. Wedi hollti’r cylch yn 3 grŵp, gosodwyd yr her: chwilio a thwrio am 1 Corinthiaid 16:14 gan sicrhau fod pob aelod o’r grŵp â’r adnod o’i flaen. Tîm y marched a orfu - Elin, Shani, Tanwen, Efa, Amy a Lleucu. Yr her nesaf: 1 Ioan 4:19. Y tro hwn Tomos, Ifan, Ffred a Keith oedd y tîm buddugol. Sam, Osian, Harri ac Ioan oedd cyntaf i ffeindio 1 Pedr 4:8. Mae’r tair adnod yn pwysleisio’r angen am Gariad Duw - Cariad ar waith. Er mwyn tanlinellu’r rheswm am ein pwyslais ar Gariad Duw bu’r arweinyddion yn gofyn cyfres o gwestiynau. Os oes pensil a phapur gennych, rhowch gynnig ar eu hateb -pethau syml ddigon ydynt, ond... yng nghudd ynddynt mae hanfod ein ffydd!
Prifddinas Cymru?
Canberra?
Canol a chalon yr hen Undeb Sofietaidd?
Y wlad fach honno lle mae rhan fwyaf o’r Hen Destament a’r Testament Newydd yn digwydd?
Kenya? Lesotho? Mali? Namibia?
Y wlad honno lle mae cŵn mawr, grêt yn dod?
Caergybi? Caernarfon? Llanrwst? Chwilog?
Prifddinas Norwy?
Bu llifogydd cas iawn yn wlad hon ychydig flynyddoedd yn ôl (dechrau gyda ‘B’)?
Barack Obama?
Y Taj Mahal a Gandhi?
Dyma wlad lle mae’r bobl yn gwisgo’n lliwgar iawn ac yn hoffi bwyd spicy?
Pobl hyfryd, siocled hyfryd?
Pobl hyfryd, ynysoedd hyfryd, gwyliau hyfryd?
Gweriniaeth sydd yn enwog am goffi, coco a bananas?
Dyma’r atebion:
Caerdydd
Awstralia
Rwsia
Israel
Affrica
Denmarc
Gogledd
Oslo
Bangladesh
America
India
Gwlad Thai
Gwlad Belg
Ynysoedd y Bahamas
Y Weriniaeth Ddominicaidd
CARIAD: GOBAITH BYD. Yr unig ateb i broblemau pobl yw cariad. Nid dial, nid cas am gas yw gobaith byd, ond cariad.
Ymlaen yn ddiymdroi i drafod Llaw’r Beibl gan ddychwelyd at thema’r mis - ‘5’. Gofynnwyd i’r PIMSwyr i greu amlinelliad o’i llaw, gan osod y gair ‘Clywed’ wrth y bys bach, ac ymlaen fesul bys gan ychwanegu ‘Darllen’; ‘Astudio’; ‘Cofio’ a ‘Myfyrio’. Yn grwpiau o 5 aethpwyd ati i chwilio am yr adnodau hyn, a chydio’r adnod wrth y gair perthnasol ar y llaw:
Rhufeiniad 10:17
Datguddiad 1:3a
Actau 17:11
Salm 119:11 a 13
Salm 119:15
Y mae 2016 wedi ei dynodi yn Flwyddyn y Beibl Byw gan yr enwadau Cymraeg. I sicrhau fod y Beibl yn fwy, rhaid ‘Clywed’, ‘Darllen’, ‘Astudio’, ‘Cofio’ a ‘Myfyrio’.
Wedi iddo sicrhau’r cwmni na fuasai’n rhaid i neb fwyta Haggis, esboniodd y Gweinidog fod heno’n Burns Night. Soniwyd ychydig am Robbie Burns (1759-1796), cyn cyflwyno i sylw’r cwmni un o gerddi’r bardd. Y gamp, yn syml oedd darllen a cheisio deall y gerdd!
Ysgrifennwyd yr epigram hwn ar ôl iddo fynychu oedfa yn Lamington, pentref tua 40 milltir i’r de orllewin o Gaeredin:
Divine Service in the Kirk of Lamington (1791)
As cauld a wind ar ever blew;
A caulder kirk and in’t but few;
As cauld y minister ar ever spak;
It will be a long time ere I’ll be back.
 hwythau wedi dechrau dechrau deall, ffurfiwyd 3 grŵp i drafod pwysigrwydd Llawenydd ym mywyd y Cristion. A ddylai cymunedau ffydd fod yn groesawgar a chynnes?
Mynnai Osian fod gwahaniaeth rhwng bod yn hapus â bod yn llawen!
Awgrymodd Keith a Tanwen fod yn rhaid i'r eglwys leol fod yn agored a chroesawgar gan fod Iesu yn agored a chroesawgar. Rhaid estyn croeso fel y cawsom ein croesawu.
Wedi ambell gêm wirion i gloi, cafwyd cyfle i ymlacio, bwyta a dal i fyny - ‘roedd ambell un heb weld ei gilydd ers amser cinio!