...canys chwi oll un ydych yng Nghrist Iesu (Galatiaid 3: 28b WM)
Rhoddwyd i ni weinidogaeth y cymod... (2 Corinthiaid 5: 18a) Ni yn gyfryngau tangnefedd, yn dystion i gyfiawnder ac yn weision hedd mewn byd a diwylliant sy’n drwch o furiau a ffiniau, mewn gwlad a chymuned o dan bwysau caethiwed ac anghyfiawnder, tensiwn a thrais. Beth yw gweinidogaeth y cymod? Cymodi. Pam cymodi? ...canys chwi oll un ydych yng Nghrist Iesu.
Beth yw cymodi? Dileu ffiniau? A yw ‘dileu’ yn gysyniad rhy wan? Gellir dileu llinell a dynnwyd mewn pensil ar fap; anos ‘rhwbio allan’ ffin rhwng dwy genedl neu ddau ddiwylliant. Deallodd Paul hyn; meddai am Iesu - Canys efe yw ein tangnefedd ni, yr hwn a wnaeth y ddau yn un, ac a ddatododd ganolfur y gwahaniaeth rhyngom ni (Effesiaid 2: 14). Cymodi yw datod cwlwm. Onid cwlwm tynn o hen glymau yw’r ffiniau a saif rhyngom? Diwylliant a diwylliant, cenedl a chenedl, crefydd a chrefydd, enwad ac enwad, eglwys ac eglwys, ni a nhw? Yn y Beibl Cymraeg Newydd a beibl.net nid ‘datod’ ffiniau a wneir ond chwalu muriau. Chwalu yw cymodi. Onid oes arnom ofn chwalfa? Chwalfa grefyddol, chwalfa ddiwylliannol. Oni chynigir rhywbeth amgenach yn yr Efengyl? Noddfa, craig safadwy a chysgod rhag y storm. Onid dyna sydd ei angen ar bobl heddiw? Chwalu’r muriau yw cymodi...muriau o’n hamgylch ein hunain, muriau a godwyd i’n cadw i mewn ac i’n cadw allan, muriau rhyngom, ynom, trwom ac amdanom. Mae’r muriau hyn yn wahanfuriau rhwng pobl a Duw. Cymodi yw taflu ein geiriau bach, gweithredoedd pitw, gweddïau gwael a’n gobeithion brau at y muriau mawr a chadarn a saif rhwng cenhedloedd, hiliau, cenedlaethau, eglwysi, rhyngom ag eraill, a rhyngom a’n hunain. Gwan y muriau yn wyneb rhain oherwydd ... chwi oll un ydych yng Nghrist Iesu. Beth yw cymodi? Maddau. 1987: Enniskillen. My wife and I do not bear any grudges. I am very sorry for those who did this, but I bear them no ill-will...I shall pray for those people tonight and every night. May God forgive them. (Gordon Wilson (1927-95), tad un o'r rhai a laddwyd gan y bom). Nid gwadu poen a dicter a wna gwir faddeuant, ond mynd benben â’r naill a’r llall, a’u goresgyn. Diarfogi. Pan aeth Iesu i Jerwsalem, mynnodd beidio gwireddu’r broffwydoliaeth a oedd yn awgrymu y byddai’r Meseia’n dod fel rhyfelwr. Yn hytrach, mynnodd wireddu proffwydoliaeth Sechareia a welodd y Meseia ar gefn asyn. Gelwir arnom ninnau i osod ein harfau o’r neilltu, i ladd yr elyniaeth sydd ynom yn hytrach na lladd ar y sawl a dybiwn i fod yn elynion. Gosod o’r neilltu’r wên ddur, yr edrychiad nodwyddog, a'r gair cynnil miniog...canys chwi oll un ydych yng Nghrist Iesu. Rhyddhau yw cymodi. Cyhoeddodd Iesu Efengyl sydd yn newyddion da i’r tlawd, i’r carcharorion, i’r dall, ac i’r gorthrymedig...a hynny ymhlith ei bobl ei hun yn Nasareth, yn ei synagog lleol, ac ar Saboth cyffredin. Rhyddid yw cymod - i ryddid y rhyddhaodd Crist ni (Galatiaid 5:1a). Trwy gyfrannu at fudiadau heddwch a chefnogi pobl sy’n dystion i gymod, byddwn yn hwyluso gwaith eraill i gymodi ac yn eu calonogi, ond ni fyddwn yn cymodi ein hunain. Wrth ei draed y dechreuodd Iesu ar ei weinidogaeth, ac mae cymod yn dechrau wrth ein traed ninnau: Bywha dy waith, O Arglwydd mawr!…dros holl derfynau'r ddaear lawr…o fewn ein tir…o fewn dy dŷ…yn ein calonnau ninnau nawr (gan Minimus 1808-80; C.Ff. 243). Cymodi yw sicrhau fod y gorthrymedig yn cerdded yn rhydd. Pwrpas rhyddid yw creu pobl yn meddu gogoniant rhyddid a harddwch cyfrifoldeb. Cymodi yw rhannu. Un o nodweddion yr Eglwys Fore oedd rhannu: Byddent yn gwerthu eu heiddo a’u meddiannau, a’u rhannu rhwng pawb yn ôl fel y byddai angen pob un (Actau 2: 45). Cyfoethogwyd yr eglwysi cynnar wrth roi a derbyn: ‘roedd y berthynas rhyngddynt a’i gilydd yn eu hannog i edrych allan.
Gweinidogaeth y cymod? Cymodi, a hynny trwy ddatod rhwymau, chwalu muriau, diarfogi, rhyddhau a rhannu. Ffydd, gobaith a chariad...caru sydd allweddol; er mor bwysig gobaith, pwysicach gobeithio, a beth yw ffydd heb bobl yn credu ac annog credu? At y drindod hon dylid ychwanegu cymod. Eto, er mor bwysig cymod, hanfodol cymodi oherwydd Rhoddwyd i ni weinidogaeth y cymod...canys chwi oll un ydych yng Nghrist Iesu.