Ganed William Rees, neu Gwilym Hiraethog yn y Chwilbren Isa’, Llansannan, Tachwedd 8 1802, a brawd iddo oedd y pregethwr enwog Henry Rees. Cafodd William y frech wen pan oedd yn fachgen ifanc, a gwnaeth hi gryn argraff ar ei wyneb, a chollodd ei lygad o’i herwydd. Ni chafodd addysg ffurfiol, ond fe’i diwylliodd ei hun yn ddiwyd. Cawn ganddo ef ei hun ddarlun da o’i fachgendod yn ffermio ac yn bugeilio defaid ei dad, a Thango'r ci yn gyfaill ymlyngar iddo. Ni ellir sôn yn iawn mewn cyflwyniad bychan bach fel hwn am ei gyfraniad llenyddol ac eisteddfodol, ond ei brif gampwaith eisteddfodol oedd ei awdl i Heddwch. Y mae’n debyg na fu neb yng Nghymru'r pryd hwnnw yn ymddiddori mewn cymaint o bethau â Gwilym Hiraethog.
Ganed ef i’r teulu Methodistaidd, ond am ryw reswm neu’i gilydd torrodd gysylltiad â’r Methodistiaid, ac ymunodd â’r Annibynwyr, ac ef oedd un o sylfaenwyr yr achos Annibynnol yn Llansannan. Yn fuan iawn dechreuodd bregethu, a daeth ar unwaith i sylw gwlad, ac yn 1832 ordeiniwyd ef yn weinidog ym Mostyn, ac yntau ar y pryd yn briod a thri o blant ganddo, a saith swllt yr wythnos oedd y cyflog a gynigwyd iddo. Ymhen pum mlynedd symudodd i Ddinbych, ac yn 1843 i Lerpwl. Pan sefydlwyd yr Undeb Cynulleidfaol Cymraeg yn 1872, dewiswyd Hiraethog yn Gadeirydd cyntaf iddo.
Daw'r cofnod o 'Beibl Llywydd Undeb Annibynwyr Cymraeg'
Ymneilltuodd o’r weinidogaeth yn 1876 a bu farw yn nhŷ ei ferch yng Nghaer, Tachwedd 8 1883. Lerpwl sy’n cadw ei lwch.
Cymerodd Cymru Hiraethog i’w chalon, ac erys y diddordeb ynddo hyd y dydd hwn. Gŵr amryddawn ydoedd, ac er ei feddwl mawr ‘roedd yn ostyngedig iawn. Fel bardd yr oedd yn llawer mwy cartrefol gyda’r awdl, nag ydoedd ym myd yr emyn. Canodd lawer o emynau, ond mae nifer ohonynt yn rhy drwm i’w canu’n esmwyth, ond er hynny mae rhai ohonynt yn neilltuol o dda, ac yn llawn cysur a chymorth i fyw.