Y Flwyddyn 70 ac Efengyl Marc (3)
Dechrau Efengyl Iesu Grist, Mab Duw (Marc 1:1-13)
Dechrau. Dechrau Efengyl Iesu Grist, Mab Duw (Marc 1:1) Yn y dechreuad creodd Duw... (Genesis 1:1) Tra parhau i ddarllen y darn o’r Torah a benodwyd i’r diwrnod hwnnw yn y synagog ar y Saboth, ‘roedd yr Iddewon Cristnogol hefyd yn darllen darn pwrpasol o hanes Iesu Grist o’r deunydd crai a adwaenir bellach fel yr Efengylau. Hanfod y bennod gyntaf o Lyfr Genesis yw’r creu: Yn y dechreuad creodd Duw y nefoedd a’r ddaear. Dechrau Efengyl Iesu Grist, Mab Duw: yn y Roeg: Archē (Y dechrau -1); tou (yr - 2); euangeliou (efengyl - 3); Iēsou (Iesu - 4); Christou (Crist - 5); Huiou (mab - 6) a Theou (Duw - 7). Crëwyd y cyfanfyd mewn saith diwrnod; dechrau Marc ei Efengyl â saith gair! Cyd-ddigwyddiad? Myn Marc fod Iesu’n ddechreuad a chyfle newydd.
Efengyl. Newyddion Da. Mor weddaidd ar y mynyddoedd yw traed y negesydd sy’n cyhoeddi heddwch...sy’n dweud wrth Seion ‘Dy Dduw sy’n teyrnasu’ (Eseia 52:7). Geiriau i ddathlu bod Jerwsalem a’r Deml wedi eu harbed rhag byddinoedd Asyria. Gwaredodd Duw ei bobl. Erbyn y flwyddyn 70 ‘roedd Jerwsalem wedi cwympo. ‘Roedd angen newyddion da; tov yw ‘da’ yn yr Hebraeg. Ymddangos y gair tov am y tro cyntaf yn Llyfr Genesis (1:3-4): A dywedodd Duw, ‘Bydded goleuni.’ A bu goleuni. Gwelodd Duw fod y goleuni yn dda. Ceir patrwm i’r creu: ‘bydded’, ‘bu’, ‘gwelodd’, ‘da’. Bod yn dda yw bod yr hyn a grëwyd ni i fod: Plant Duw. I’r perwyl hwnnw, meddai’r Phariseaid, rhaid cadw’r Gyfraith. Na, mynnai’r Iddewon Cristnogol, rhaid ildio i Gyfraith Dduw mewn cnawd: Iesu Grist - Yr hwn a ddaeth, gan gyhoeddi: Y mae’r amser wedi ei gyflawni ac y mae Teyrnas Dduw wedi dod yn agos. Edifarhewch a chredwch yr Efengyl. (Marc 1:14). Gwireddir yng Nghrist yr hyn y bwriadwyd ni i fod: yn dda.
Iesu Grist. Ansoddair Groeg yw Christos, yn cyfateb i’r gair Hebraeg Meseia (eneiniog). Ceir ‘Eneiniog yr Arglwydd’ yn yr Hen Destament sef brenhinoedd a eneiniwyd ag olew fel arwydd o’u dewis gan Dduw. Defnyddiwyd y teitl Meseia ar yr Un o linach Dafydd y disgwyliai’r bobl i Dduw ei godi i fod yn waredwr Israel. Cyflawnwyd y disgwyliadau, ond mewn ffurf wahanol i’r hyn a ddisgwylid! Geilw Marc i gof yr hen alwad: Paratowch ffordd yr Arglwydd... (Marc 1:3 / Eseia 40:3); clywir gan Ioan: Y mae un cryfach na fi yn dod... (Marc 1:7); cyn...daeth Iesu o Nasareth Galilea (Marc 1:9). Symud Marc ei wrandawyr o Paratowch Eseia, i mae un cryfach na fi yn dod Ioan, i...daeth Iesu. Daeth y Meseia i ganol bywyd y byd, a rhaid gwneud cyfrif ohono. Llefarodd Iesu Grist neges o dyngedfennol bwys am Dduw cariadlawn a maddeugar.
Mab Duw. Wedi bedydd Iesu, daeth llais o’r nefoedd: Ti yw fy Mab, yr Anwylyd; ynot ti yr wyf yn ymhyfrydu (Marc 1:11). Mae’r mab yn gyfrannog o holl gyfrinachau ei dad; mae’n un â’i dad o ran anian, cymeriad, meddwl a phwrpas: Y neb a’m gwelodd i a welodd y Tad (Ioan 14:9 WM). I Iddewon y flwyddyn 70, ni fu’r ddau air erioed o’r blaen yn ymyl ei gilydd...Mab Duw yw Iesu Grist; hwn o’r un natur, ansawdd, sylwedd, deunydd â Duw, a ninnau o’r un deunydd, sylwedd, ansawdd a natur ag Iesu. Perthyn a wnawn i Dduw, nid oherwydd ein bod yn ufudd i ofynion y Gyfraith, ond oherwydd ein llunio o ddeunydd dwyfol. Cynnig Marc a’r Iddewon Cristnogol ddealltwriaeth newydd o berthynas pobl â Duw. Plant Duw oeddent, ac ‘roedd Duw o’u plaid.
Mae tebygrwydd rhwng y flwyddyn 70 a 2015. Yng Nghymru, wrth i’r hen ffordd o grefydda ddarfod, rhaid ceisio deall beth ddigwyddodd ddoe, tra heddiw, darganfod y ffordd ymlaen i yfory. Onid Dechrau Efengyl Iesu Grist, Mab Duw yw’r ateb? Dechrau; onid pobl y ‘dechrau’, yr ‘ailddechrau’ a’r ‘dechrau o’r newydd’, a ‘dechrau drachefn’ ydym? Iesu Grist, Mab Duw: onid brodyr a chwiorydd yng Nghrist ydym wedi ein llunio o ddeunydd dwyfol: Teml y Duw byw ydych chwi...fel y dywedodd Duw, Mi a breswyliaf ynddynt... (2 Corinthiaid 6:16)? Datganiad sydd gan Paul: dyma’r Efengyl sydd gennym ac mae angen dybryd ei chyhoeddi, a’i byw a chaniatáu i eraill brofi o wefr ei bendith.