Y Parchedig Menna Brown fu’n arwain ein Hoedfa Foreol Gynnar. ‘Roedd pawb yn synnu pan ofynnodd Menna’r cwestiwn: ‘Pam i chi yma bore ‘ma?’, ond daeth ateb yn sydyn ddigon: ‘Achos bo’ ni’n 'moyn' bod!’ Y gofyn a’r ateb hwnnw fu’n sbardun i Menna ddatblygu ei thema: ‘Gyda’n gilydd’. Soniodd am un arall oedd 'moyn' bod yn Nhŷ Dduw yn addoli a dysgu, ac Iesu oedd hwnnw. Darllenwyd gan Connor yr hanes am y bachgen Iesu yn y Deml (Luc 2:41-52). Ein dymuniad, meddai Menna, yw bod ynghylch y pethau a berthyn i'm Tad (Luc 2:49b. WM). Ni’n 'moyn' bod gyda Duw, gyda phobl Dduw, gyda’n gilydd yn Nuw, i Dduw. Gyda’n gilydd: plantos, plant a phobl ifanc; hŷn, hynach a hen, mewn hwyl a chwerthin, mewn tristwch a dagrau. Gyda’n gilydd i ddarllen Gair Duw, gyda’n gilydd i drafod a dysgu'r Gair byw hwnnw. Byw a bod ‘gyda’n gilydd' er clod i Dduw ac er lles ein cyd-ddyn. Dangosodd Menna gwilt hyfryd, ei gwaith llaw hithau oedd y cyfan. Clytwaith hardd o liw a phatrwm; ac awgrymodd Menna mai nyni oedd y darnau amrywiol, pawb a’i natur a chyfraniad gwahanol, ond Duw, meddai yw’r defnydd brown a oedd fel 'ffrâm' i'r cwilt - o’n cwmpas yn ddiogel - ei gariad ef a’n ceidw ynghyd. Eglwys Iesu Grist, meddai Menna a gynrychiolir gan y sgwâr coch: un teulu ydym, gyda'n gilydd mewn ffydd, gobaith a chariad.
Cwilt Menna, a 'sgwâr coch' Eglwys Iesu Grist.
Wedi canu emyn, newidiwyd natur yr oedfa'r mymryn lleiaf. Ar Sul y Cofio, bu Menna’n cofio, fel y mae yn cofio bob dydd o'r flwyddyn, am ei thad: David John Evans (g. 1904) a fu farw yn Mogadishu yn 1944. Claddwyd ef yno’n wreiddiol, ond ail-gladdwyd ei weddillion ym mynwent Ngong, Nairobi. Yng nghapel y Genhadaeth i’r Morwyr yn Mombasa ceir carreg a phulpud er coffa am David John. Ar y garreg mae’r geiriau hyn:
IN MEMORY OF
D.J.EVANS, 2nd OFFICER
S.S.FORT SENNEVILLE, WHO DIED ON ACTIVE SERVICE
AT MOGADISHU, APRIL 28th 1944. THIS PULPIT WAS
ERECTED BY THE CAPTAIN, OFFICERS AND CREW,
IN MEMORY OF ONE DEEPLY RESPECTED.
Dengys arwyddlun y Genhadaeth i’r Morwyr angel yn ehedeg i gyfleu’r adnod hon o Ddatguddiad Ioan: Yna gwelais angen arall yn hedfan yng nghanol y nef, a chanddo efengyl dragwyddol i’w chyhoeddi i breswylwyr y ddaear ac i bob cenedl a llwyth ac iaith a phobl (14:6). Diweddwyd yr oedfa â gweddi am heddwch i bob cenedl a llwyth ac iaith a phobl.
Rhwng y naill oedfa’r llall cafwyd cyfle am baned, sgwrs a brecwast ysgafn sydyn, heb anghofio’r nwyddau Masnach Deg a chyfrannu i’r Banc Bwyd. Fel eglwys 'rydym yn anelu at gyfrannu ail dunnell o fwyd i Fanc Bwyd Caerdydd erbyn y Nadolig. Diolch i haelioni aelodau, eisoes danfonwyd dros 700 kg o’r Ail Dunnell o fwyd i’r warws yn Sblot. ‘Rydym yn hyderus y gallwn gyrraedd y nod erbyn y Nadolig ond i sicrhau hynny bydd angen ymdrech arbennig ym mis Tachwedd i roi hwb ymlaen.
Yn yr Oedfa Foreol, cafwyd cyfle i gofio a diolch am Gwilym Hiraethog (8/11/1802 - 8/11/1883). Eiddo Gwilym Hiraethog yr emynau'r Oedfa hon, bob un. ‘Roedd y Gweinidog wedi paratoi ychydig sylwadau am gymeriad a chyfraniad Gwilym Hiraethog. Sonnir amdano yn y gyfrol fechan ‘Arweinwyr yr Annibynwyr’ (J. Rees Jones; UAC; 1939) fel Dyn y Doniau Mawr, a dyna ydoedd heb os. Trwy garedigrwydd y Parchedig Ddr R. Alun Evans, Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, ‘roedd cyfle i gael cip olwg ar Feibl y Llywydd. Beibl a gyflwynwyd gan Evan Morgan, diacon yr eglwys yn y Tabernacl Lerpwl i Lywydd yr Undeb ym mlwyddyn ei Jiwbilî yn 1922, y Parchedig O.L.Roberts. Trosglwyddir y Beibl o Lywydd i Lywydd. Pan sefydlwyd yr Undeb Cynulleidfaol Cymraeg yn 1872, dewiswyd Gwilym Hiraethog yn Gadeirydd cyntaf iddo. Testun ei anerchiad o’r Gadair oedd ‘Satan’. Cwbl addas, â hithau’n Sul y Cofio yw dyfynnu'r darn hwn o awdl fawr Hiraethog: ‘Heddwch’. Disgrifir gof yn troi cleddyf yn swch:
Chwythu’i dân dan chwibanu
ei fyw dôn, wna y gof du;
un llaw fegina, a’r llall
faluria’r glo fel arall:
wedi trefnu, taclu’r tân
ar bwynt allor ei bentan
yn hyf mewn hen gleddyf glas
luniai lawer galanas
gafaela y gof eilwaith
chwery ag ef cyn dechrau gwaith…
Wedi disgrifio’r gwaith yn mynd rhagddo, y mae’n gorffen fel hyn:
fe’i cura nes â yn swch
Gywrain ei gwasanaethgarwch,
I aru’r ddaear iraidd
A thy’ o hon wenith a haidd.
Mae’r cyd-destun yn ddigon cyfarwydd: hyfryd eiriau Eseia broffwyd:...curant eu cleddyfau’n geibiau a’u gwaywffyn yn grymanau. Ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach (Eseia 2:4).
Ar y darn papur sy’ yn llaw cerflun Henry Richard yn Nhregaron y mae’r gair Peace wedi ei ysgrifennu. Ni ddaw’r Heddwch y canodd Hiraethog amdano hyd nes i bobl drosglwyddo’r gair hwnnw o’r papur i’r galon; o’r cerflun oer i gnawd byw.
Dwy adnod yn gydiol wrth ei gilydd oedd testun pregeth ein Gweinidog y bore hwn: Rhoddwyd i ni weinidogaeth y cymod... (2 Corinthiaid 5: 18a), ac o gyfieithiad William Morgan: canys chwi oll un ydych yng Nghrist Iesu. (Galatiaid 3:28b WM). Beth yw gweinidogaeth y cymod? Cymodi. Pam cymodi?...canys chwi oll un ydych yng Nghrist Iesu. Awgrymodd mai datod cwlwm, chwalu muriau yw cymodi; maddau a diarfogi ydyw, rhyddhau a rhannu. Nid yw’n ddigon, fel rheol, i annog pobl i gymodi a’i gilydd - rhaid i rywun sefyll yn y canol i’w dwyn at ei gilydd. Dyna esiampl a roddodd Crist i ni, sefyll rhwng pobl a Duw i gymodi pobl a Duw. Pwysig heddiw, o bob Sul oedd cael ein hatgoffa o’r alwad sydd arnom i barhau ei waith o fewn yr Eglwys, a’r Eglwys hithau i sefyll rhwng y byd a Duw.
Yn yr Oedfa Hwyrol, bu’r Gweinidog yn parhau gyda’i gyfres o bregethau Efengyl Marc a’r flwyddyn 70. Cytunir mai hon yw’r Efengyl gynharaf, ac iddi gael ei hysgrifennu tua’r flwyddyn 70. Trowyd y byd Iddewig a’i ben i waered, tu chwith allan yn y flwyddyn 70. Cododd yr Iddewon mewn gwrthryfel yn erbyn yr Ymerodraeth Rufeinig a...cholli. Bu methiant, siom a cholledion enfawr; do, hyn i gyd, ac wedyn dial; dial enbyd. Dinistriwyd y Deml; echel y ffydd Iddewig. Yr Ymerodraeth a orfu. Bwriad y gyfres hon yw amlygu arwyddocâd cyd-destun ysgrifennu Efengyl Marc i bobl ffydd yng Nghymru heddiw. Testun ein sylw heno oedd adnod agoriadol yr Efengyl: Dechrau Efengyl Iesu Grist, Mab Duw. Fesul gair, cawsom ein tywys i weld beth welodd yr Iddewon Cristnogol hyn fel gobaith o’r newydd, a ffordd newydd i’w cherdded wedi difrod y Flwyddyn 70.
Dechrau. Myn Marc fod Iesu’n ddechreuad a chyfle newydd.
Efengyl. Newyddion Da. ‘Roedd y Deml yn sarn. Ni fu erioed y fath angen am newyddion da, na’r fath brinder ohono! Dyma, meddai Marc, newyddion da i chi, Iddewon Jerwsalem: heddwch, daioni, iachawdwriaeth. Yng Nghrist ‘Dy Dduw sy’n teyrnasu’ (Eseia 52:7).
Ansoddair Groeg yw Christos, yn cyfateb i’r gair Hebraeg Meseia (eneiniog). Cyflawnwyd holl ddisgwyliadau, dyheadau a gobeithion pobl Dduw, ond mewn ffurf wahanol i’r hyn a ddisgwylid - Iesu Grist.
Mab Duw. I Iddewon y Flwyddyn 70, ni fu’r ddau air erioed o’r blaen yn ymyl ei gilydd! Mab Duw yw Iesu Grist; hwn o’r un natur, ansawdd, sylwedd, deunydd â Duw, a ninnau o’r un deunydd, sylwedd, ansawdd a natur ag Iesu. Cynnig Marc a’r Iddewon Cristnogol ddealltwriaeth newydd o berthynas pobl â Duw. Plant Duw oeddent, ac ‘roedd Duw o’u plaid.
Mae tebygrwydd rhwng y flwyddyn 70 a 2015. Yng Nghymru, wrth i’r hen ffordd o grefydda ddarfod, rhaid ceisio deall beth ddigwyddodd ddoe, tra heddiw, darganfod y ffordd ymlaen i yfory. Onid "Dechrau Efengyl Iesu Grist, Mab Duw" yw’r ateb? Dechrau; onid pobl y ‘dechrau’, yr ‘ailddechrau’ a’r ‘dechrau o’r newydd’, a ‘dechrau drachefn’ ydym? Iesu Grist, Mab Duw: onid brodyr a chwiorydd yng Nghrist ydym wedi ein llunio, pawb ohonom, yn ddiwahân, gan Dduw, o Dduw, i Dduw. Dyma’r Efengyl sydd gennym ac mae angen dybryd ei chyhoeddi, a’i byw a chaniatáu i eraill brofi o wefr ei bendith.
Sul llawn a gafwyd - llawn bendith, llawn her.
Bydd y Gweinidog y bore Sul nesaf (15/11), gyda’r plant a’r plantos, yn ystyried ychydig eto o arwyddocâd y rhif 3. Am weddill yr Oedfa, emyn mawr J. G. Moelwyn Hughes (1866-1944) fydd testun ein sylw:
Fy Nhad o’r Nef, O! gwrando’n ‘nghri,
Un o’th eiddilaf blant wyf fi:
O! clyw fy llef a thrugarha,
A dod i mi y pethau da.
(CFf.:691)
Liw nos, parhawn gyda’r gyfres Ffydd a’i Phobl. Hanfod y gyfres hon yw’r cwestiwn ‘Beth yw ffydd?’ Yn yr unfed bennod ar ddeg o’r Llythyr at yr Hebreaid, mae’r awdur yn mynd i’r afael â’r cwestiwn hwnnw. Sonnir ganddo am un ar bymtheg o bobl ffydd - Esau, Joseff a Moses fydd gwrthrych ein sylw y tro hwn.