Cynhelir cyfres o fyfyrdodau dros gyfnod y Grawys dan nawdd Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd. Y thema eleni yw "Salmau: Gweddïau ar gyfer yr eglwys gyfoes".
‘Roedd y gyntaf yn y gyfres yng nghapel Salem, Treganna dan arweiniad y Parchedig Ddr Alun Tudur. Gwrthrych ein myfyrdod a thrafod heno oedd Salm 100. Wedi darllen a chymharu'r amrywiol gyfieithiadau Cymraeg trafodwyd pwysigrwydd llawenydd a dylanwad dyletswydd yn ein haddoliad a defosiwn personol. Beth yw addoliad? Sut fuasai’r dehongliad Iddewig a Christnogol o’r Salm yn gwahaniaethu? Cafwyd noson fuddiol a da.
Gweddïwn am wenau Duw ar waith a chenhadaeth Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd.