...daethant i Genesaret ac angori wrth y lan. (Marc 6:53b)
Paned a sgwrs yn y Terra Nova, Parc Llyn y Rhath
Daeth cwmni da ynghyd i Terra Nova am baned, sgwrs a heddiw ... emyn. ‘Wil biau’r emyn’ meddai Howel Harris, mae’n debyg, am William Williams, Pantycelyn (11/2/1717-1791). Un o emynau’r Pêr Ganiedydd oedd testun ein sylw heddiw. Ond cyn dod at hwnnw, cafodd bawb gyfle i nodi pa emyn oedd orau ganddynt.
Ni fethodd gweddi daer erioed
 chyrraedd hyd y nef,
Ac mewn cyfyngder, f'enaid, rhed
Yn union ato ef.
Ac nid oes cyfaill mewn un mân,
Cyffelyb iddo'n bod,
Pe baem yn chwilio'r ddaear faith
A holl derfynau'r rhod.
Ymhob rhyw ddoniau mae e'n fawr,
Anfeidrol yw ei rym,
Ac nid oes pwysau ar ei ras
Na'i haeddiant dwyfol ddim.
Mae ei ffyddlondeb fel y môr,
Heb fesur a heb drai,
A'i drugareddau hyfryd sy'n
Dragywydd yn parhau.
Man cychwyn ein trafodaeth heddiw oedd geirfa ac ieithwedd emynau, a’r angen i wynebu’r her o drosglwyddo cyfoeth ein traddodiad i’r genhedlaeth nesaf o Gymry Cristnogol. Ymlaen, maes o law i drafod gweddi yng ngoleuni’r emyn hwn. Pa ddiben sydd i weddi? Ar yr olwg gyntaf mae un o ddywediadau mwyaf cyfarwydd Iesu fel pe’n awgrymu nad oes fawr o ddiben i weddïo! ...oherwydd y mae eich Tad yn gwybod cyn i chwi ofyn iddo beth yw eich anghenion (Mathew 6:8).
Gellid deall yr angen i weddïo - i weddïo'n gyson ac yn ddyfal - petai Duw yn Deyrn didostur, yn gyndyn ei gymwynas, yn amharod ei fendith; ond pa ddiben sydd i weddi, os Tad cariadlawn ydyw, yn gwybod eisoes holl eisiau ei blant, a dim byd yn ormod ganddo i wneud drostynt?
Cytunwyd mai un o bennaf ddibenion gweddi yw dyfnhau ein hymdeimlad o ddibyniaeth ar Dduw ein Tad, a chreu ohonom o’r herwydd, bobl gwir ddiolchgar. Onid, dyma hanfod ein ffydd: Diolch? Arferai'r cymal Gorsedd Gras fod yn allweddol bwysig i bobl y ffydd gynt. Onid oes angen ailddarganfod yr hen drysorau hyn? Mae gofyn inni ddod yn gyson at Orsedd Gras, pe’n unig i sylweddoli mai gorsedd Gras ydyw, mai Gras Duw yw gwaelod a gwraidd ein byw a’n bod, a dim ond yng ngoleuni Gras Duw y mae dehongli ein cyflwr yn gywir.
Ymhellach, er bod ein Tad yn gwybod cyn i ni ofyn iddo beth yw ein hanghenion, mae’n gwestiwn a wyddom ni ein hunain! Un o wersi pwysicaf bywyd yw dod i sylweddoli beth yw ein gwir anghenion. Dysgu bod mewn eisiau yw un arall o ddibenion gweddi.
Gellir mynd ymhellach; braint arbennig y gweddïwr yw dod i sylweddoli beth yw eisiau’r Tad. Duw mewn eisiau yw’r Duw a welir yn Iesu Grist. Atgoffwyd ni o gwpled Elfed (1860-1953):
Os Duw sydd ar f’enaid ei eisiau,
Mae eisiau fy enaid ar Dduw.
(CFf.208)
Am mai Tad ydyw, eisiau dyfnaf ei galon yw dod i berthynas agos a real â’i blant. Nid hiraeth y plant am ddod adref yw gwirionedd mwyaf y Testament Newydd, ond hiraeth Tad am eu cael yn ôl i’w aelwyd. Diwallu eisiau’r Tad yw’r unig beth a ddiwalla ein heisiau ninnau yn y pen draw.
Diolch am gwmni’n gilydd, am sgwrs a thrafodaeth dda. Daeth Genesaret â bodd a bendith.