Addolaf di, ARGLWYDD, o waelod calon; a sôn am yr holl bethau rhyfeddol wnest ti (Salm 9:1 Beibl.net).
Heddiw, yn 1717 yn Llanfair-ar-y-bryn ger Llanymddyfri, sir Gaerfyrddin ganed William Williams (m.1791): emynydd mawr y Diwygiad Methodistaidd.
Ymdawelwch...
Ymdawelwch a chofiwch fod Duw yn agos atoch...
Meddyliwch yn weddigar am y llun isod a’r amrywiol ddyfyniadau o waith Pantycelyn.
Delwedd: Annie Vallotton (1915-2013)
Ystyriwch y bryniau, a’r mynyddoedd yn y pellter...
Euogrwydd fel mynyddoedd byd
dry’n ganu wrth dy groes.
Cadw ‘ngolwg ar y bryniau
uchel, heirdd, tu draw i’r dŵr.
‘Rwy'n edrych dros y bryniau pell
amdanat bob yr awr.
Trysorau hyfryd, canmil gwell,
cuddiedig draw ar fryniau pell.
Ystyriwch y dŵr ... dwfn a llonydd:
Ac yn Ei gariad dwfn a maith
mi nofiaf tua’r Nef;
canys nid oes dymestl fyth na thon
yn rhuo ynddo Ef.
Môr heb waelod
o bleserau ddaeth i’m rhan.
Ryw ddyfnder sy’n fy nghlwyf
mwy nag a ddeall dyn.
Ond llawenydd fel y môr
sy wrth Ei orsedd.
Mae’r Iachawdwriaeth fel y môr,
yn chwyddo fyth i’r lan;
mae yma ddigon, digon byth
i’r truan ac i’r gwan.
Ystyriwch yr adar...
Boed fy ysbryd i ti’n nyth...
Mae fy enaid yn ehedeg
ar adenydd ysgeifn ffydd,
ac yn syllu trwy’r ehangder
uchel maith, at bethau fydd.
O! na allwn innau’r awron
ehedeg ‘fyny fry.
‘R wyf yn caru’r gwynt sy’n hedeg
dros fy Nghannan hyfryd, wiw;
‘Fedd y llawr ddim yn awr
leinw le fy Arglwydd mawr.
Yn olaf, ystyriwch yr haul...
O! na welwn ddydd yn gwawrio -
bore hyfryd, tawel iawn;
Haul yn codi heb un cwmwl...
O! gwawria fore ddydd,
pan gaffwy’ fynd yn rhydd
o’m carchar caeth;
pan gwympo’r muriau pres,
A’r dorau sydd yn rhes,
a minnau fynd yn nes
i ben fy nhaith.
Dyma’r bore fyth mi gofia’,
clywais innau lais y nef;
daliwyd fi wrth wŷs oddi uchod
gan ei sŵn dychrynllyd ef.
‘Rwy’n edrych dros y bryniau pell
Amdanat bob yr awr:
Tyrd, fy anwylyd, mae’n hwyrhau,
A’m haul bron mynd i lawr.
I orffen, meddyliwch dros eiriau Moelwyn (1866-1944):
'O iselder trueni a gwae gwêl Williams y pinaclau fry - henfro sancteiddrwydd a llawenydd. Sylla ar y llechweddau gwyrddlas draw - y tir anghyffwrdd, ond sydd gyraeddadwy trwy ras i’r neb a ddyheo. Fel y brefa’r hydd am yr afonydd dyfroedd, felly yr hiraetha fy enaid am danat Ti, O! Dduw (Salm 42:1 WM).'
(Pedair Cymwynas Pantycelyn A&M Hughes 1922)
(OLlE)