Liw nos; cwmni. Caws, bara, gwydriad o win a … chyfaddefiad: fe anobeithiodd, meddai. Do, yn llwyr a llawn. Onid oedd y newyddion - lleol, cenedlaethol, rhyngwladol - yn ddygn o ddrwg? Yn amgylcheddol, diwylliannol a chrefyddol llithrwn yn dawel sicr tuag y ddifancoll. Mae rhywrai o hyd fyth yn lladd rhywrai gan honni fod Duw o’u plaid. ‘Rydym yn sarnu’n gilydd, herio’n gilydd, twyllo’n gilydd, malu’n gilydd - cyllellu, saethu, arteithio, bomio. Anobeithiodd.
‘Roedd y cwmni’n syfrdan; bu hwn mor wydn ei obaith. Bu amryw ohonom yn gobeithio yn ei obaith yntau; ond, fe anobeithiodd. Hwn, o bawb, yn gryno-sôn am obaith a fu mor gymen, bellach yn rhacsach yfflon. ‘Roedd bywyd, meddai yn gawdel creulon diystyr a diobaith. Anobeithiwn.
Bûm yn hel meddyliau wedyn am anobaith y gŵr gobeithiol hwn. Daeth y Grawys - llem, llwyd - yn arwain at yr Wythnos Fawr - galed, greulon - a’r wythnos honno’n arwain at Wener y Grog: nos dywyll o ganol dydd hyd dri o’r gloch y pnawn. Y cyfan tywyll wedi’i ganoli ar Iesu. Dyma gymod benben â thrais; maddeuant wyneb yn wyneb â dialedd; daioni lygad yn llygad â drygioni. Ac yn fuddugol? Trais, dialedd, a drygioni. Iesu tirion yn gelain, a’i deyrnas fechan yn sarn: c'est la vie. Anobeithiwn.
Ond mae llymder llwyd y Grawys, caledi creulon yr Wythnos Fawr, a'r Wener du yn ildio - y cyfan oll, yr oll yn gyfan - yn gorfod ildio i’r Pasg. Dyma obaith i druan fyd fel hwn. Daw eto’r Pasg, nid oes atal y Pasg. Er bod trais, dialedd, a drygioni fel petai’n ennill; cymod, maddeuant a daioni piau’r fuddugoliaeth. Dyweder a fynner, y mae yna rywbeth ardderchog yn y natur ddynol. Faint bynnag o gondemnio sydd ar ddyn pan fo yn ei gythraul, yn hunanol, yn greulon, yn lladronllyd, yn ddialgar a threisgar, eto er gwaetha’i bethau isel a thruenus, y mae yna rywbeth mewn dyn - ynom - sy’n arwrol o fawr. Gobeithiwn.
Iesu tirion; marw. Anobaith piau’r dydd Gwener hwnnw, ond … Gobaith piau’r Sul. Daeth y Pasg: Iesu tirion a orfu. Daw ein Pasg - yn ddiatal daw Pasg. Yng ngwaelod dwfn pethau bywyd, mae gobaith i’w gael. Y mae gobaith, ac i fyd druan o dan archoll, dyna’r newyddion gorau posibl. Gobeithiwn. Yn ein gobaith, gobeithiwn.
(OLlE)