Mae enwau torfol - collective nouns yn ddiddorol! Diadell o eifr; cnud o fleiddiaid; gyr o warthog; bu o ychain; traill o bysgod; gre o wenyn; pla o forgrug. Neu, a throi at y Saesneg: a culture of bacteria; a lounge of lizards; a murder of crows. Â minnau’n weinidog, diddorol oedd gweld y cyfeiriad at a congregation of birds, ac yn wir, mae ambell dderyn ym mhob cynulleidfa o bobl Dduw; ond hefyd, sylwch a congregation of crocodiles. Umm...taw piau hi mae’n siŵr.
Gwelais y llun uchod o ddrudwy Aberystwyth, a deffrodd y cof o’i herwydd. Dylai ambell brofiad aros yn y cof, ond fe lithrant yn dawel i ffwrdd, a dyna’n union ddigwyddodd i’r atgof hwn. Tair blynedd yn ôl, tua’r adeg yma o’r flwyddyn: gwelais haid o ddrudwy yn ehedeg. ‘Roedd pnawn siwmperog yn dechrau ildio i’r nos, ac yn ddisymwth, fe ddaethant: cwmwl llwyd-frown ohonynt. Degau, na...cannoedd o ddrudwy; drudwy yn un gwibiad yn gwibio. Mor rhyfedd rhyfeddod eu perffaith cydsymud. A’r naill yn arwain y llall a hwnnw’n arwain y lleill crëwyd un patrwm rhubanog ar ôl y llall. Y cyfan oll mewn tawelwch aflonydd: sisial adenydd ac ambell gri a gwich - fel lleisiau’n galw mewn twmpathau dawns. Yn dyst i’r sioe, cwmni bychan bach o bobl.
Deffrodd llun Amelia yr atgof hwnnw, a hefyd hen ddyhead. Y dyhead i fod yn rhan, ac â rhan yn rhywbeth tebyg: Pobl Dduw yn cydsymud mewn ffydd, cyd-ddyheu a chyd-ryfeddu mewn gobaith; ac mewn cariad yn cydweithio’n anturus a mentrus, a hynny, nid er waethaf ein hamrywiaeth barn ac argyhoeddiad, ond o’i herwydd.
Yn union fel y daethant - yn sydyn - diflannodd yr adar. Nid oedd golwg ohonynt, ond ‘roedd eu sŵn yn hyglyw. Â’r perfformiad bellach trosodd, ‘roedd yr adar hyn fel cast, corws a cherddorfa, yn trin a thrafod y sioe. ‘Roedd y drudwy’n clebran o dan y pier.
Mae Google yn awgrymu fod drudwy yn heidio fel hyn i gadw cwmni a chadw’n ddiogel; i rannu cysgod a lledu gwybodaeth. Mae hyn yn wir, mae’n siŵr; ond annigonol ydyw i lwyr gyfleu afresymoldeb dawns a dawnsio’r drudwy. Tua’r adeg pan mae pobl yn llusgo’i ffordd am adref, mae’r adar hyn yn dawnsio, a chlodfori eu bodolaeth. Oni ddylem ymuno yn y ddawns honno? Aethom yn fwy tebyg i ddail nag adar; dail yn tindroi yng nghornelau cymhlethdodau’r oes. O! am enaid adeiniog! O! am eglwysi adeiniog, a’n gweinidogaeth yn ddawns batrymog: un llif ein llifo. Am wn i, mae’r pennill hwn, ar emyn ar ei hyd, yn hwb i hedfan:
Nef a daear, tir a môr
sydd yn datgan mawl ein Iôr,
fynni dithau, f’enaid
fod yn y canol, heb roi clod?
(Joachim Neander, 1650-80 cyf. Elfed, 1860-1953. CFf.:116).
Bod yn ddiolchgar am holl fendithion Duw yw’r fwyaf o’r holl fendithion.
Llun: Amelia Davies, Aberystwyth (2014)
(OLlE)