68 nodwydd. Â phob un yn chwe modfedd o hyd, nid nodwyddau cyffredin mohonynt. Gosodwyd y nodwyddau’n gymen ar gefndir gwyn, glân, mewn dwy golofn, unionsyth, unffurf. Gellid dweud mai dyna’r cyfan sydd i ddweud am ‘No Man’s Land’ Roohi Ahmed.
Mae’n hawdd edrych heb weld. A’i unffurf y nodwyddau? Wrth edrych, a thalu sylw, gwelir nad unffurf y nodwyddau. Heb amheuaeth, maen nhw’n debyg iawn, ond nid ydynt, bob un, yn union yr un fath. Wrth sylwi fod ambell un yn wahanol, mewn byr amser, sylwir fod pob un yn unigryw!
Y gelfyddyd yw’r syniad gwreiddiol a’r gwaith gosod; y ddawn yw amlygu'r tueddiad sydd ynom i ddewis gweld unffurfiaeth foel, monocrom yn hytrach na mynd i’r drafferth o edrych am gyfle a chyfoeth amrywiaeth. Beth felly yw’r ddameg, y neges? Haws o lawer gweld unffurfiaeth na chwilio am amrywiaeth. Mae dewis gweld unffurfiaeth yn caniatáu - ar y gorau - i’n rhagdybiaethau'r llonydd sydd angen arnynt i gysgu’n dawel; ar y gwaethaf, estynnir i’n rhagfarnau gofod i dyfu a chyfle i ffynnu.
Mi all ein syniadau a’n daliadau fod, fel nodwyddau Ahmed, yn daclus iawn, a phopeth megis yn ei le, a’i le i bob peth. Ond tybed a ydyw felly yn rhy daclus o lawer? Hanfod ffydd yw dilyn y cwestiynau lletchwith, anodd; nid aros gyda’r atebion taclus, hawdd.
Sylwch yn ogystal, fod pob nodwydd a’i lygad am i mewn. Mae’r nodwyddau’n gorwedd llygad wrth lygad. Am allan y gorwedd min y nodwydd. Onid, felly y tueddwn i fod. Y rhai a wel ‘lygad yn llygad’ a ni, gyda ni, ac i’n hamddiffyn ni, rhagddynt nhw, gesyd wal finiog yn ei le. Enw’r darn yw ‘No Man’s Land’. A dyna’n union yw’r tir hwnnw rhwng y nodwyddau. Tir neb ydyw. Gall neb gyrraedd atom heibio’r amddiffyn miniog; a ninnau’n gweld neb, gan fod gormod o ‘lygad yn llygad’ yn ein dallu. Hanfod crefydd yw nid ‘gwna!’ a ‘na wna!’ ond yn syml, ‘gwêl!’ Dim syndod felly, bod y Sais yn sôn am bobl grefyddol fel observant!
O ran cymhwyso’r ddameg…wel, gofynned pob un iddo ef ei hun. Y dyhead Cristnogol yw nid gwneud pobl yn ddibynnol - ‘tebyg at ei debyg’, ‘lygad yn llygad’ - na’u gwneud yn gwbl annibynnol ar ei gilydd - rhes ddiadlam o nodwyddau miniog, ond gwneud pobl gyd-ddibynnol - pobl sydd yn annibynnol a dibynnol yr un pryd. Daw bendith a ffyniant i bawb wrth sylweddoli bod bendith a’n ffyniant pob ‘ni’ wedi ei blethu â bendith a ffyniant pob ‘nhw’.
Mae rhwydwaith dirgel Duw
yn cydio pob dyn byw;
Cymod a chyflawn we
Myfi, Tydi, Efe.
(‘Brawdoliaeth’, Dail Pren; Waldo Williams 1904-1971. Argraffiad newydd, 1991; Gomer)
O ran y gwelwn...maddau i ni Arglwydd am gredu mai’r rhan yw’r cyfan. Amen
(OLlE)