Heddiw, gan Eglwys Loegr a’r Eglwys yng Nghymru, cofir am William Temple (1881-1944), Archesgob Caergaint (1942-1944), diwinydd, pregethwr; un o sylfaenwyr Cyngor Eglwysi Prydain a Chyngor Eglwysi’r Byd. Gweithiodd yn ddyfal a dygn i sicrhau croeso a lloches ym Mhrydain i Iddewon yn ffoi rhag gwallgofrwydd Natsïaeth.
I’ch sylw heddiw felly, dyfyniad o’i waith a gweddi ganddo; y naill a’r llall wedi’u cyfieithu i’r Gymraeg. I orffen, chwip o stori dda amdano, yn Saesneg, o'r bywgraffiad: William Temple: An Archbishop for All Seasons gan Charles W. Lowry (UPA, 1982)
Ystyr addoli yw dwysbigo’r gydwybod â sancteiddrwydd Duw, porthi’r meddwl ar wirionedd Duw, puro’r dychymyg gan brydferthwch Duw, agor y galon i gariad Duw, plygu’r ewyllys i bwrpas Duw.
(‘Mil a Mwy o Berlau’ gol. Olaf Davies. Cyhoeddiadau’r Gair; 2013)
O! Iesu bendigedig, yr hwn a ŵyr amhurdeb ein teimladau, culni ein cydymdeimlad, ac oerni ein cariad, meddianna ein heneidiau a llanw ein meddyliau â llun ohonot ti, tor drwy ystyfnigrwydd ein hewyllys hunanol a ffurfia ni’n debyg i’th gariad. Amen
(‘Mil a Mwy o Weddïau’ gol. Edwin C. Lewis. Cyhoeddiadau’r Gair; 2010)
In 1931, at the end of the Oxford Mission (what is known in many Protestant circles as a Revival Meeting), he (William Temple) led a congregation in the University Church, St Mary the Virgin, in the singing of the hymn, "When I Survey the Wondrous Cross." Just before the last stanza, he stopped them and asked them to read the words to themselves. "Now," he said, if you mean them with all your heart, sing them as loud as you can. If you don't mean them at all, keep silent. If you mean them even a little and want to mean them more, sing them very softly." The organ played, and two thousand voices whispered:
Were the whole realm of nature mine,
That were an offering far too small;
Love so amazing, so divine,
Demands my soul, my life, my all.
For many who participated, it was a never-forgotten experience.
(OLlE)