Wedi dod ynghyd, o'r ieuengaf i'r hynaf; i ffwrdd â ni gan hamddenol gerdded, loncian, seiclo, sgwtro ... ac un - onid oes wastad un? (Mab y Gweinidog ydoedd!) - yn hamddenol ddigon ar ei sgwter trydanol! Yng nghanol prysurdeb cyfnos ar gaeau Pontcanna, cafwyd hwyl yng nghwmni'n gilydd. Wedi dychwelyd, â Cafe Castan bellach yn llawn o bobl eglwys Minny Street, rhannwyd pitsa ymhlith y plant a'r bobl ifanc, gyda'r addewid o beth bynnag oedd yn weddill i'r oedolion! Wedi'r pitsa, allan eto a gosod y Gweinidog yn y gôl. Er mawr syndod i rai, nid oedd hanner cynddrwg ar ddisgwyl fel gôl geidwad! Diolch i bawb a fu ynglŷn â'r trefnu, a'r cyfan oll er budd ein helusen eleni: Pedal Power. www.cardiffpedalpower.org