Ar y 7fed o Orffennaf 1916 dechreuodd brwydr gyntaf Coedwig Mametz ar y Somme. Erbyn y 12fed, lladdwyd ac anafwyd tua 4,000 o’r 38fed Llu (Cymreig). Gelwir y lle’n ‘Dyffryn y Cymry’ gan y Ffrancwyr lleol o hyd. Heddiw, gwelir y Ddraig Goch yn cyhwfan dros y lle bu cymaint o dywallt gwaed a gwastraff bywyd. Ymhlith y milwyr a brofodd o’r erchylltra oedd nifer o feirdd rhyfel allweddol Cymru a Lloegr, yn cynnwys Robert Graves (1895-1985); David Jones (1895-1974), Siegfired Sassoon (1886-1967) a Llewellyn Wyn Griffith (1890-1977).
Fe beintiwyd darlun o’r lladdfa – portread o gyflafan – gan Christopher Williams (1873-1934), darlun a welir yn yr Oriel Genedlaethol yng Nghaerdydd. Dyma felly Battle at Mametz Wood (1918):
Mae’r gweld a’r clywed yn aml iawn mewn perffaith gynghanedd, felly wrth syllu i ddyfnder gwewyr portread Christopher Williams o wir erchylltra rhyfela, gwrandawn apêl Wil Ifan (1883-1968):
Yr unfed awr ar ddeg
Na ato Duw i neb farddoni
Ing y pedair blynedd hir,
A rhoi mentyll eu rhamantau
Dros ysgwyddau’r ffiaidd wir;
Os am gofio, cofiwn gofio’r
Cyfan oll yn llaid a gwaed,
A phob hawddgarwch ac anwyldeb
Wedi’u mathru’n faw dan draed.
Yr unig beth all gofio’r marw
Yw dagrau hallt ar ruddiau’r byw,
A churo dwyfron edifeiriol
A gweiddi am drugaredd Duw:
Os ceir ymbil yn lle ymffrost
A phader yn lle llw a rheg,
Pwy a ŵyr
Na all Ef ein hachub eto
Ar yr unfed awr ar ddeg?
Y Winllan Las (1936)
(OLlE)