Un o nodweddion ein cyfnod yw ymchwiliadau cyhoeddus. Cyhoeddir heddiw adroddiad hir-ddisgwyliedig ymchwiliad Chilcot i ran gwledydd Prydain yn rhyfel Irac. Gwyddom am ymchwiliad Butler - ynghylch cywirdeb y gudd-wybodaeth oedd yn honni bod arfau niwclear ac ati yn Irac. Cofir am ymchwiliad Hutton ynghylch marwolaeth Doctor David Kelly. Gwyddom hefyd am yr ymchwiliadau a fu oherwydd Harold Shipman, Stephen Lawrence, Victoria Climbie, Bloody Sunday, Rosmary Nelson, Robert Hamill, Billy Wright, Patrick Finucane, Baha Mousa, Shirley McKie. Mae’n anodd cadw fyny gyda’r holl ymchwiliadau hyn; a rywsut, mae’n anodd peidio meddwl y daw ymchwiliad ynghylch yr ymchwiliadau.
Diben pob ymchwiliad yw darganfod beth ddigwyddodd; darganfod y gwirionedd. Y bwriad yw ateb cwestiynau pwysig a difrifol. Gallwn ymfalchïo yn y chwilio am wirionedd a'r twrio am gyfiawnder, ond a ydym yn dysgu rhywbeth o gwbl o’r ymchwiliadau hyn? Mae’r cwestiynau sydd yn cael eu holi yn wirioneddol bwysig … ond efallai fod cael ein gweld yn holi’r cwestiynau wedi mynd yn bwysicach na chanfod yr atebion sydd angen arnom.
Ar ddechrau llyfr Genesis, gwelwn fod pawb wedi eu creu ar lun a delw Duw. Yr her i fi a chi yw darganfod delw Duw ynom ein hunain ac eraill. Dylid ymroi i chwilio am lun a delw Duw ynom ein hunain a phobl eraill.
Er mwyn cynorthwyo mudiadau a sefydliadau i newid a datblygu, mae arbenigwyr yn defnyddio dull arbennig o ymchwilio, sef AI, sef Appreciative Inquiry. Diben Appreciative Inquiry yw hybu rhinwedd, yn ogystal ag amlygu gwendid.
Dyma ffordd wahanol o ymchwilio. Gellid ei fabwysiadu gennym fel eglwysi, ac fel unigolion. Y cwestiwn sylfaenol yw hyn: Beth sydd dda, effeithiol a bendithlawn yn ein perthynas â ni'n hunain, ein perthynas ag eraill a'n perthynas â Duw?
Mae pawb yn hoffi cael eu canmol. Mae canmol yn tynnu’r gorau allan ohonom. Mae canmoliaeth hefyd yn creu gofod i bobl cael ymdrin yn gall ynghylch y pethau nad sydd mor fendithiol, effeithiol a da.
Meddyliwch am y bobl sydd yn rhannu eich bywyd: y plant, eich cymar, y teulu, cyfeillion, cymdogion, cyfoedion, cydweithwyr. Onid, haws yw gweld bai ynddynt na chanmol yr hyn sydd dda?
Wrth werthfawrogi pobl, ‘rydym hefyd yn chwilio am Dduw ar waith. Cawn weld, felly Duw ar waith yn a thrwy ein bywyd ni; bywyd y bobl sydd yn rhan o wead ein byw; a bywyd y gymdeithas ehangach o’n cwmpas.
Yn ei lythyr at yr Effesiaid mae Paul yn annog yr eglwys yno i gymhwyso’r saint i waith y weinidogaeth, i adeiladu corff Crist (Effesiaid 4:12). Mae gwerthfawrogi’r hyn sydd dda ynom, ac o’n cwmpas, yn ffordd wych o adeiladu corff Crist gan fod yr hyn sydd yn wan, aneffeithiol, niweidiol a drwg, yn cael ei amlygu - ni ddylid cuddio gwendidau na chelu trafferthion. Ond, mae’r hyn sydd dda, llesol, creadigol a chynhaliol yn cael ei osod mewn print bras, trwm a lliwgar.
Tybed, felly os gallwn gynnal ymchwiliad tawel ohonom ein hunain heddiw? A hynny trwy gyfrwng ystyriaeth addolgar o’r adnodau a thestunau gweddi isod.
Wrth ddarllen yr adnodau isod, ystyriwch gysgod amddiffynnol Duw drosoch, a gollyngwch eich hun i’w ofal ...
ARGLWYDD, yr wyt wedi fy chwilio a’m hadnabod ...
Chwilia fi O! Dduw, iti adnabod fy nghalon; profa fi, iti ddeall fy meddyliau. Edrych a wyf ar ffordd a fydd yn loes i mi, ac arwain fi yn y ffordd dragwyddol.
(Salm 139:1a, 23-24 BCN)
Dduw grasol, molwn di,
am dy gariad tuag atom,
am dy waith drosom
ac am dy nerth ynom.
- Gofynnwn am gael derbyn cyfoeth cariad y Tad ac i estyn y cariad hwnnw i eraill.
- Pura’n meddyliau o bopeth amhur a chyfeiliornus a ffurfia ynddynt dy feddwl sanctaidd di.
- Cod ein hewyllys o afael pob cymhelliad hunanol a hyffordda ni i ufuddhau i ofynion dy deyrnas.
- Rhyddha ein doniau o bob amcan annheilwng a pherffeithia hwy yn dy wasanaeth di.
- Achub ein heneidiau o’u caethiwed i bechod a glanha a sancteiddia hwy trwy rin dy gariad.
- Ffurfia ni’n gyfan gwbl ar batrwm dy berson a gad i’th fywyd di lenwi a ffurfio’n bywyd ni.
Amen.
(OLlE)