Stori sydd wedi cydio yn nychymyg pob plentyn - a phobl hŷn - yw stori Dafydd a Goliath. Aeth Dafydd â bwyd i'w frodyr - milwyr ym myddin Saul. Tawel iawn oedd pethau yn y gwersyll gan fod Goliath yn eu herio i frwydr, a neb yn fodlon ymateb i'r her.
Pan glywodd Dafydd hyn, dywedodd y byddai ef yn fodlon derbyn yr her. Aed ag ef at Saul; 'roedd y brenin yn ddiolchgar, mor ddiolchgar nes rhoi i Dafydd ei arfwisg ei hun: ... rhoi helm bres ar ei ben, ei wisgo yn ei lurig, a gwregysu Dafydd â'i gleddyf dros ei wisg (1 Samuel 17:38). Y foment honno, 'doedd neb yng ngwersyll Israel wedi ei arfogi'r well ar gyfer brwydr na Dafydd. Ond, gwrthod y cyfan wnaeth Dafydd. Pam? Ni fedraf gerdded yn y rhain, oherwydd nid wyf wedi arfer â hwy (1 Samuel 17:39). Arfau benthyg oeddent.
Amhosibl yw ymladd brwydrau bywyd ag arfau benthyg. 'Roedd Dafydd wedi hen arfer â ffon dafl, a chyda honno yr aeth i gwrdd â'r cawr - honno a'i ffydd yn Nuw. Dyna pam fod pwyslais y Beibl yn gyson gyson ar ymateb personol mewn ffydd i Dduw, a'r ffydd bersonol honno, o'i gyson ymarfer, yn erfyn cyfarwydd yn ein dwylo i oresgyn cewri cas ein byw a'n profiad.
(OLlE)