Mae cymydog i ni, beth bynnag a ddywedir wrthi, yn hoff o ddefnyddio dau air Yes, but ... Fe wyddech ei bod, er yr yes cadarnhaol, mewn gwirionedd yn anghytuno - mae'r but anorfod yn agor drws i lif ei barn hithau am hyn, llall ac arall; mae'r 'ond' yn newid y cwbl.
Mor hawdd, a chyson y llithra'r 'ond' - sy'n newid popeth - i'n sgwrs ninnau. 'Mae'r tŷ yn iawn ond ...'; 'Mae'r eglwys yn iawn ond ...'; 'Mae'n berson iawn ond ...' Mae'r 'ond' yn newid y cwbl.
Nid yn unig ei ddweud 'rydym; gall yr 'ond' fod ar waith yn ein byw a'n bod. Ys gwn i sawl un yng nghylch ein cydnabod sydd yn cario'i 'ond' yn ddewr a dirwgnach, ac o bosibl neb yn gwybod am hynny? Dim ond yr allanol a welwn ni'n aml, yr wyneb cyhoeddus, heb allu gweld loes a thorcalon yr 'ond'. 'Does dim rhyfedd i Iesu ein hannog i fod yn ofalus yn ein beirniadaeth o'n gilydd. (Peidiwch â barnu, rhag ichwi gael eich barnu; oherwydd fel y byddwch chwi'n barnu y cewch chwithau eich barnu, ac â'r mesur a rhowch y rhoi i chwithau. Mathew 7:1 BCN). Mae'r 'ond' yn newid y cwbl.
Fyddai neb byth yn caru'i gymydog fel ef ei hun pe bai'n gwrando ar bob 'ond' y gellid ei ddweud.
(OLlE)