• Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu
Menu

Eglwys Minny St.

Street Address
City, State, Zip
Phone Number

Your Custom Text Here

Eglwys Minny St.

  • Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu

PREGETH NOS SUL

July 10, 2016 Owain Evans

Y Flwyddyn 70 ac Efengyl Marc (8): Rhwygo’r Wahanlen (Marc 15: 21; 3-41)

Efengyl Marc a ysgrifennwyd gyntaf adeg cwymp Jerwsalem. Wedi cwymp Jerwsalem, dim ond y Phariseaid a’r Iddewon Cristnogol oedd ar ôl. Mynnai’r Phariseaid mai canlyniad esgeulustod y bobl o ofynion Cyfraith Duw oedd cwymp Jerwsalem. Mynnai’r Iddewon Cristnogol mai canlyniad esgeulustod y bobl o neges Cyfraith Duw - neges cariad Iesu Grist - oedd dinistr y Deml. Beth yw arwyddocâd hyn oll i ni fel eglwysi, ac i grefydd a chrefydda yng Nghymru?

Yna aethant ag ef allan i’w groeshoelio. Gorfodasant un ... Simon o Cyrene, tad Alexander a Rwffus, i gario ei groes. (Marc 15: 20-21) Wrth i Iesu grymu dan ei groes daeth Simon o Cyrene i’w gynorthwyo; gwr o Cyrene yng Ngogledd yr Affrig, yn ymweld â Jerwsalem i ddathlu Gŵyl y Bara Croyw. I Iddewon Jerwsalem ‘roedd Simon yn amhur. Heb sôn am ei dad, fe’i cyflwynir fel tad Alexander a Rwffus. Enw Groegaidd yw Alexander, ac mae Rwffus yn enw Rhufeinig. I’r Phariseaid, ‘roedd hyn yn arwydd mai person halogedig ydoedd. Ar y llaw arall, mae Simon, enw traddodiadol, diogel Iddewig yn awgrymu magwraeth Iddewig. Roedd Simon yn Iddew o argyhoeddiad. Er yn ŵr halogedig ac amhur yn nhyb yr Iddewon, dyma’r gŵr fu’n gymorth i Iesu. Pan welodd y canwriad, a oedd yn sefyll gyferbyn ag ef, mai gyda gwaedd felly y bu farw, dywedodd, "Yn wir, Mab Duw oedd y dyn hwn." (Marc 15:39). Sylwer, er mai’r Rhufeiniaid fu’n gyfrifol am ddinistrio’r Deml, y gelyn a wêl Iesu fel Mab Duw. Pwyslais Marc yw bod Iesu wedi derbyn cymorth gan yr ymylol, a bod yr estron wedi cydnabod ei fawredd. Rhaid i’n crefydd ledu ein gorwelion; rhaid i’n crefydda ymagor i gynnwys yr ymylol, ac i groesawu’r estron. Yn 2016,’rydym ninnau mewn cyfnod lletchwith. Rhaid peidio cau a chloi’r drws rhag y byd; nid yn unig y mae hynny yn eu cau ‘nhw’ allan, ond mae hefyd yn ein cau ninnau i mewn. Yn y gyfres Hitchhiker’s Guide to the Galaxy gan Douglas Adams (1952-2001), darganfyddir tŷ gyda’r allanol tu mewn, a’r mewnol tu allan. Wedi croesi rhiniog y drws, mae’r byd i gyd oddi mewn i’r tŷ. Weithiau, er pob ymddangosiad, mae’r cyfan oll o’n cwmpas yn gysurus a chyfarwydd, a chrëir yr argraff ein bod ni’n ddiogel tu mewn. Ond na! Tu faes ydym! I gamu i mewn i fendith fawr ein ffydd, rhaid camu allan at Dduw, allan yn enw Duw, allan at, a thros bobl. Wrth gamu allan bydd ein profiad o Dduw yn lledu, ehangu a dyfnhau.

Ac am dri o’r gloch gwaedodd Iesu â llef uchel, "Eloï, Eloï, lema sabachthani" (Marc 15:34). Gellid awgrymu fod Iesu wedi colli ymdeimlad o agosrwydd Duw ei Dad. I Iddewon y cyfnod, hyddysg yn y Salmau, byddai neges Iesu yn gwbl amlwg iddynt: Fy Nuw, fy Nuw, paham y’m gwrthodaist? Paham yr ydwyt mor bell oddi wrth fy iachawdwriaeth, a geiriau fy llefain? (Salm 22:1) Cwyd Marc Iesu fel drych i’r bobl weld eu hunain: Y mae gyr o deirw o’m cwmpas, rhai cryfion yn cau amdanaf ... y mae fy nghalon fel cŵyr, ac yn toddi o’m mewn ... (Salm 22:12-14) Ond newidir cyfeiriad: Molwch ef, chwi sy’n ofni’r Arglwydd ... ni ddirmygodd na diystyru gorthrwm y gorthrymedig ... Bydd yr anghenus yn bwyta, ac yn cael digon a’r rhai sy’n ceisio’r Arglwydd yn ei foli. Bydded i’w calonnau fyw byth! (Salm 22: 23-26). Nid gwaedd o anobaith sydd gan Iesu, ond cadarnhad o’i ffydd yn Nuw. Dyna neges ganolog y Salm; lle mae’r llawenydd?

... rhoes Iesu lef uchel, a bu farw. Rhwygwyd llen y Deml yn ddwy o’r pen i’r gwaelod (Marc 15:38, 39). Wrth i’r wahanlen a oedd yn cuddio'r Cysegr Sancteiddiolaf rwygo agorir ffordd ddirwystr i bresenoldeb Duw. Iesu agorodd y ffordd, gan mai Iesu yw’r ffordd. Rhwygwyd y wahanlen rhyngom ni a’n hunain; rhwng eglwysi; rhwng pobl ffydd; rhwng cenedlaethau, hiliau, diwylliannau a chenhedloedd. Dyna’r llawenydd! Ymhlyg yn y llawenydd mae cyfrifoldeb. Ceir sawl grym ar waith yn brysur a dygn gyfannu’r rhwyg. Hawdd peidio ymwneud â hyn oll; peidio sôn am gyfrifoldeb a dyletswydd! Mae'r cyfnod hwn y'n ganwyd iddo yn galw arnom i sicrhau, gyda Duw, gyda’n gilydd, gyda’r estron na fydd y wahanlen byth eto’n gyfan.

← NEWYDDION Y SULOND →

Eglwys Annibynnol Minny St.
Y Waun Ddyfal, Caerdydd
CF24 4ER

Lawrlwytho
Dogfennau

©minny St 2021